2.6 Cynnwys plant wrth reoli ymddygiad
Mae'r mwyafrif o blant yn ymateb yn gymharol dda i system o wobrwyon a chosbau. Fodd bynnag, mae systemau o'r fath yn defnyddio ysgogiadau anghynhenid, wedi'u hanelu'n benodol at reoli ymddygiad a sicrhau cydymffurfiaeth â'r hyn y mae'r athro neu'r ysgol am iddo ddigwydd. Mae ystadegau'n dangos nad yw defnyddio ysgogiad anghynhenid yn effeithiol ar gyfer pob myfyriwr (yr Adran Addysg, 2013).
Yn ddelfrydol, dylid ysgogi plant i ddysgu mewn modd cynhenid, fel eu bod yn gwneud rhywbeth, fel darllen, er ei fwyn ei hun ac am eu bod am wneud hynny, nid dim ond er mwyn cael eu gwobrwyo (Kohn, 1999).
Gweithgaredd 8
Darllenwch y dyfyniad a olygwyd isod ar opsiynau amgen i egwyddorion ymddygiadol cosbau a gwobrau a'r defnydd o arfer adferol.
Lleisiau newydd: A oes angen i ysgolion gael gwersi ar ysgogiad?
Mae opsiynau amgen i egwyddorion ymddygiadol cosbau a gwobrau. Un o'r rhain yw arfer adferol.
Mae arfer adferol yn deillio o'r system cyfiawnder troseddol, lle y dangoswyd ei fod yn fwy effeithiol ac yn llai costus na dulliau cosbol traddodiadol (Flanagan, 2014), ac mae'n seiliedig ar feithrin a chynnal cydberthnasau, adfer unrhyw niwed a achosir, a chydweithredu ar y ffordd ymlaen (Thorsborne a Blood, 2013). Mae'r dull gweithredu hwn yn galw am ymrwymiad a chefnogaeth gan bob aelod o staff yr ysgol ac i ddechrau byddai'n fwy llafurus na pharhau â system o gosbau a gwobrau. Ond yn y tymor hir byddai'r dull hwn yn llawer mwy buddiol i'r bobl ifanc dan sylw gan eu bod yn cael y cyfle i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymateb mewn modd ymaddasol i heriau bywyd a datblygu ymwybyddiaeth emosiynol ac empathi. Mae ysgolion sydd wedi rhoi'r dull gweithredu hwn ar waith wedi gweld gwelliannau o ran mesurau cymdeithasol ac economaidd fel gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol, gostyngiad yn nifer yr absenoldebau mynych, a chynnydd o ran cyflawniad mewn Saesneg a mathemateg (Flanagan, 2014; Thorsborne a Blood, 2013).
Egwyddor sylfaenol y dull gweithredu yw bod staff yr ysgol yn cydweithio â'r bobl ifanc er mwyn datblygu problemau ymddygiad heriol, yn hytrach na gorfodi atebion arnynt. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod dewis ac annibyniaeth yn elfennau allweddol wrth feithrin cymhelliant cynhenid (Ryan a Deci, 2000). Mae galluogi pobl ifanc i fod yn rhan o benderfyniadau ynghylch beth sy'n digwydd iddynt yn yr ysgol yn ffordd effeithiol o ymgysylltu â myfyrwyr ac addysgu sgiliau gwneud penderfyniadau gwerthfawr iddynt.
Cyfeiriadau
Flanagan, H. (2014, Gorffennaf). Restorative approaches. Cyflwyniad mewn digwyddiad hyfforddiant ar gyfer Cyngor Sir Swydd Caergrawnt, Over, Swydd Gaergrawnt, y DU.
Ryan, R. a Deci, E. (2000). Intrinsic and extrinsic motivations. Contemporary Educational Psychology, 25(1), 54–67.
Thorsborne, M. a Blood, P. (2013). Implementing restorative practices in schools. Llundain: Jessica Kingsley Publishers.
Nawr atebwch y cwestiynau canlynol:
- Beth yw eich ymateb cychwynnol i'r dull hwn?
- Yn eich rôl fel cynorthwyydd addysgu, sut y gallech gefnogi'r broses o roi'r dull hwn ar waith?
Gwnewch nodiadau cyn darllen ein sylwadau.
Sylwadau
Un elfen allweddol o arfer adferol yw meithrin cydberthnasau. Drwy weithio'n agos gyda phlant – yn aml ar sail unigol – efallai eich bod o'r farn eich bod eisoes yn meithrin cydberthnasau â phlant a'u bod hefyd yn cael cyfle i siarad â chi a'ch bod chi'n gwrando arnynt. O ganlyniad, efallai eich bod wedi cael ymateb cadarnhaol i'r dull gweithredu hwn.
Fel arall, efallai eich bod wedi meddwl ei fod yn 'syniad da', ond y byddai'n cymryd gormod o amser i'w roi ar waith. Hefyd, yn dibynnu ar eich safbwyntiau, gallech fod yn gyfforddus neu'n anghyfforddus â'r syniad o gydweithredu â'r plant er mwyn datrys problemau.