3 Cydnabod problemau ymddygiad
Mae sawl rheswm dros broblemau ymddygiad ymysg plant. Yn y pwnc hwn, rydym wedi dewis canolbwyntio ar broblemau iechyd meddwl fel achos o ymddygiad a allai godi pryderon.
Mae un o bob 10 plentyn a pherson ifanc 5 i 16 oed wedi cael diagnosis clinigol o anhwylder iechyd meddwl ac mae gan tua un o bob saith ohonynt broblemau llai difrifol (yr Adran Iechyd, 2013). Mae adroddiadau gan sefydliadau ac elusennau sy'n gweithio gyda phlant yn awgrymu nad yw'r ystadegau hyn wedi newid yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae pwysigrwydd lles ac iechyd meddwl yn cael ei gydnabod fwyfwy. Oherwydd hyn, penododd llywodraeth y DU yr eiriolwr iechyd meddwl cyntaf erioed ar gyfer ysgolion yn 2015 er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth a lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl pobl ifanc (yr Adran Addysg, 2015).
Mae'r ffocws hwn ar les plant wedi arwain at lu o adroddiadau gan y llywodraeth ar y pwnc. Mae un o'r rhain, Adroddiad Allen, Early Intervention:The Next Steps, yn dyfynnu Coleg Brenhinol y Seiciatryddion gan nodi:
Bydd mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl yn gynnar mewn bywyd yn gwella cyrhaeddiad addysgol, cyfleoedd cyflogaeth ac iechyd corfforol, ac yn lleihau lefelau o gamddefnyddio sylweddau, hunan-niwed a hunanladdiad, yn ogystal â gwrthdaro teuluol ac amddifadedd cymdeithasol. Yn gyffredinol, bydd yn cynyddu disgwyliad oes, cynhyrchiant economaidd, swyddogaeth gymdeithasol ac ansawdd bywyd. Bydd hefyd yn arwain at fudd i bob cenhedlaeth.