3.3 Symptomau a allai fod yn arwydd o broblemau iechyd meddwl
Mae mwy o ysgolion yn ychwanegu iechyd emosiynol at bolisïau ac yn rhoi hyfforddiant i staff ar y pwnc hwn. Gall fod yn gymharol hawdd dweud pan fydd plentyn yn sâl yn gorfforol – efallai y bydd ei dymheredd yn uwch na'r arfer, neu efallai y bydd ganddo smotiau, er enghraifft. Fodd bynnag, gall fod yn llawer anoddach adnabod salwch meddwl, neu ddiffyg lles emosiynol. Yn ogystal â'r ffocws ar deimladau a'r gallu i ymdopi â straen a 'digwyddiadau' bywyd, mae'r symptomau yn llawer llai amlwg, yn enwedig yn y camau cynnar.
Un anhwylder meddwl cyffredin yw gorbryder. Gall amrywiaeth o bethau ysgogi gorbryder ac fel cynorthwyydd addysgu, dylai fod gennych ddealltwriaeth o sut i gefnogi plant pan fyddant yn orbryderus.
Gorbryder a phanig – arwyddion a symptomau
Gall gorbryder achosi symptomau corfforol ac emosiynol. Mae hyn yn golygu y gall effeithio ar sut mae person yn teimlo yn ei gorff a hefyd ar ei iechyd. Dyma rai o'r symptomau:
- teimlo'n ofnus
- teimlo allan o wynt, yn chwyslyd, neu gwyno am 'bili-pala' neu boen yn y frest neu'r stumog
- teimlo dan straen, yn anesmwyth, defnyddio'r tŷ bach yn aml.
Gall y symptomau hyn fynd a dod. Ni all plant ifanc ddweud wrthych eu bod yn orbryderus. Byddant yn mynd yn flin, yn ddagreuol ac angen sylw, yn cael trafferth cysgu, a gallant ddeffro yn ystod y nos neu gael hunllefau. Gall gorbryder hyd yn oed achosi plentyn i gael cur pen, poen yn ei fol neu deimlo'n sâl.
Astudiaeth achos: Gorbryder
'Wn i ddim amdanoch chi, ond rydw i bob amser wedi bod yn un am boeni, fel fy mam-gu. Bob blwyddyn, byddem yn cynllunio ein taith deuluol i India a byddai'n dechrau ... poeni am y daith ar yr awyren ... poeni am fynd yn sâl ... a chyn i'r awyren godi byddai fy stumog yn troi, byddai fy nwylo yn chwyslyd a byddwn yn teimlo na allwn anadlu. Weithiau, byddwn yn teimlo fy nghalon yn curo a byddwn yn meddwl fy mod yn marw neu'n mynd yn "wallgof".
Y llynedd, cyn fy arholiadau, gwaethygodd y sefyllfa. Roeddwn wedi bod dan lawer o bwysau yn yr ysgol ac mae pawb yn fy nheulu bob amser wedi gwneud yn dda a mynd ymlaen i'r brifysgol, felly gwyddwn y byddai'n rhaid i mi astudio'n galed iawn. Aeth pethau cynddrwg fel na allwn ganolbwyntio. Roeddwn yn teimlo'n grynedig ac yn nerfus yn yr ysgol a hyd yn oed yn dechrau crïo bron bob dydd. Doeddwn i ddim yn cysgu'n dda am fy mod mor nerfus ac roeddwn yn teimlo gormod o gywilydd i ddweud wrth fy rhieni.
Yn y diwedd, gwnes i siarad yn agored gyda nyrs yr ysgol a dyna oedd y peth gorau i mi erioed ei wneud. Cysylltodd hi â mam, ac ar ôl gweld y meddyg teulu, es i weld tîm o arbenigwyr yn yr ysbyty.
Peidiwch â phoeni ... doeddwn i ddim am gael fy ystyried yn "ferch sy'n gweld y seiciatrydd" chwaith, ond nid dyna sut oedd pethau. Gall y tîm gynnwys pob math o bobl fel meddygon, nyrsys, seicolegwyr a gweithwyr cymdeithasol. Gwnaethant dawelu fy meddwl a'm helpu i a'm teulu i weld bod fy symptomau yn rhai go iawn (yn union fel pan mae gennych asthma). Es ymlaen i gael therapi siarad o'r enw therapi gwybyddol ymddygiadol. Mae hyn yn cynnwys nifer o sesiynau wythnosol gyda'r therapydd. Doedd dim angen i mi gymryd meddyginiaeth hyd yn oed. Er y byddaf wastad yn poeni, rwy'n teimlo'n llawer gwell, ac rwyf hyd yn oed yn edrych ymlaen at y trip eleni i India.'
Gweithgaredd 10
Ar ôl darllen y disgrifiad uchod o'r symptomau arferol a ddangosir gan blant sydd â gorbryder, meddyliwch am sut y gallech chi fel cynorthwyydd addysgu helpu plentyn sydd â gorbryder. Gwnewch nodiadau ac yna darllenwch ein sylwadau.
Sylwadau
Wrth feddwl am ymddygiad plentyn, mae angen i chi greu darlun yn hytrach na chanolbwyntio ar ymddygiad penodol. Hefyd, meddyliwch am amlder neu ddwyster yr ymddygiad a ph'un a oes unrhyw resymau amlwg dros yr ymddygiad.
Efallai eich bod wedi ystyried p'un a wnaeth yr ymddygiad effeithio ar les y plentyn. Er enghraifft, efallai y bydd plentyn sy'n hoffi cael llawer o sylw ac sy'n amharod i adael i'w riant neu ofalwr ei adael yn ei chael hi'n anodd meithrin cydberthnasau neu gyfeillgarwch ag eraill. Neu efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd cymryd rhan mewn sefyllfaoedd cymdeithasol arferol, a fyddai'n effeithio ar ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol.
Mae rhai ymddygiadau'n briodol ar adegau neu gamau datblygu penodol, ond gallent olygu problem mewn plentyn hŷn.