Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4 Gwrando ar blant

Mae gwrando ar blant yn thema allweddol mewn gwasanaethau ar gyfer plant ifanc. Mae hefyd yn elfen bwysig o unrhyw ymyrraeth i helpu plant â phroblemau iechyd meddwl gan ei fod yn rhoi cyfle i'r plant deimlo bod eu teimladau'n bwysig ac, felly, yn gwella eu hunan-barch. Mae hefyd yn galluogi'r oedolion dan sylw i feithrin dealltwriaeth o'r problemau sydd gan y plentyn.

Weithiau, efallai na fydd plant yn gallu mynegi eu hunain yn glir, neu efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd siarad am sut maent yn teimlo. Efallai y byddant yn cael budd o sesiynau therapi proffesiynol er mwyn eu helpu i archwilio eu teimladau a gweithio drwy'r heriau i'w lles emosiynol.

Gellir cynnig sawl math o therapi, o therapïau siarad confensiynol, fel therapi gwybyddol ymddygiadol, i therapïau sy'n galluogi plant i fynegi eu teimladau drwy chwarae neu gelf.

Un ffordd o gael plant i fod yn agored a thrafod eu pryderon a chael gwybod sut maent yn teimlo yw rhannu llyfrau gyda nhw sy'n deimlo gyda 'phroblemau'.

Gweithgaredd 11

Timing: Caniatewch tua 45 munud

Edrychwch drwy'r llyfrau ar wefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a gwefan Little Parachutes.

Yna, edrychwch drwy'r llyfrau yn llyfrgell eich ysgol neu eich llyfrgell leol a nodwch ddau lyfr y gellid eu defnyddio i helpu plant ag anawsterau, ofnau neu bryderon a allai fod ganddynt. Ysgrifennwch rai llinellau i ddweud sut y gellid defnyddio'r llyfrau a ddewiswyd gennych. Mae gennym rai enghreifftiau isod:

Cyfres Everyone Has Feelings gan Picture Window Books

Mae'r llyfrau hyn yn cynnwys teitlau fel Everyone Feels Angry Sometimes gan Carl Mercer ac Everyone Feels Sad Sometimes gan Marcie Aboff. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar un teimlad ac ar sefyllfa sy'n gysylltiedig â'r teimlad hwnnw. Mae'r llyfrau yn helpu plant i weld bod ateb ac y gallant oresgyn y ffordd maent yn teimlo.

Michael Rosen's Sad Book gan Michael Rosen, lluniau gan Quentin Blake. ISBN: 0744598982, Walker Books

Mae Michael Rosen yn rhannu ei deimladau trist am ei fab, a fu farw, ac mae'n ysgrifennu ynghylch sut y ceisiodd ymdopi â'r digwyddiad trist hwn yn ei fywyd.

Misery Moo gan Jeanne Willis, lluniau gan Tony Ross. ISBN: 1842705261, Anderson

Mae'r stori hon am fuwch sydd mor drist fel bod Lamb yn cael trafferth codi ei chalon. Ond, yn y diwedd, mae Cow yn sylweddoli pa mor bwysig yw cael ffrindiau ac edrych am y gorau, nid y gwaethaf, mewn pethau.

Voices in the Park gan Anthony Browne. ISBN: 0552545643, Corgi

Gellir defnyddio'r lluniau i drafod teimladau gyda phlant a phobl ifanc wrth i daith i'r parc gael ei archwilio drwy lygaid pedwar cymeriad gwahanol.

Beegu gan Alexis Deacon. ISBN: 0099417448, Red Fox

Mae Beegu yn dod o'r gofod ac mae'r stori hon yn archwilio sut deimlad yw cael eich anwybyddu a'ch gwrthod gan oedolion. Prin yw'r geiriau ond mae'r lluniau yn cyfleu ei neges ac yn rhoi digon o destun trafod.

Reading Lights Llyfr comig i blant –4–7 oed a'u hathrawon a'u rhieni. Ar gael o'r Comic Company neu Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Pedwar llyfr llawn lliw sy'n mynd i'r afael â sut beth yw bod yn wahanol, a rhoi fframwaith i'w ddefnyddio gan rieni, gweithwyr cymdeithasol ac athrawon i helpu plant.

Llyfrau i blant hŷn eu darllen eu hunain

Mae nifer o awduron plant sydd wedi ysgrifennu llyfrau ffuglennol ar broblemau bywyd go iawn i blant. Gall darllen y straeon hyn helpu plant i weithio drwy eu problemau bywyd go iawn eu hunain ac ymdopi â nhw.

Ymhlith yr awduron mae:

  • Jacqueline Wilson
  • Morris Gleitzman
  • Lemony Snicket
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Gellid defnyddio llawer o lyfrau ar gyfer plant fel sail ar gyfer trafodaeth am deimladau ac er mwyn helpu plentyn i ddeall yr heriau yn ei fywyd.

Mae gwefan Little Parachutes yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau perthnasol ar gyfer plant iau ynghyd â gwybodaeth sy'n ymwneud ag ofnau a phryderon, y gellid lawrlwytho rhai ohonynt. Efallai eich bod hefyd wedi gweld bod gwefannau cymorth cenedlaethol fel Mind a Chymdeithas Genedlaethol Awstistiaeth, hefyd yn cynnig rhestrau darllen a llyfrynnau defnyddiol.

Bydd adeiladu eich rhestr adnoddau eich hun a'i diweddaru yn eich helpu i gynnig awgrymiadau amserol i blant hŷn a chyfleoedd darllen i blant iau.