Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Rheoli ymddygiad

Cyflwyniad

Yn yr adran hon, byddwch yn edrych ar reoli ymddygiad mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ond beth yw ystyr 'rheoli ymddygiad'?

Mae rheoli ymddygiad yn hollbwysig yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n ymwneud â mwy na chosbi ymddygiad annymunol neu wobrwyo ymddygiad dymunol. Yn hytrach, mae'n ymwneud â rhoi strategaethau ar waith i helpu plant i ymddwyn mewn ffyrdd sy'n eu helpu i fanteisio i'r eithaf ar eu haddysg. Mae Oxley (2015) yn ystyried bod meithrin cydberthnasau dysgu cadarnhaol ac ysgogi plant yn gynhenid i ddysgu yn bwysig ar gyfer rheoli ymddygiad yn effeithiol. Mae 'cynhenid' yn bwysig yma am ei fod yn ymwneud â phlant yn cael eu hysgogi am resymau y tu mewn i'r person, fel mwynhad, neu am ei fod yn gwneud iddynt deimlo'n well amdanynt eu hunain; yn hytrach nag ysgogiadau anghynhenid, fel sticeri, arian, ac ati.

Mae'r maes hwn wedi'i rannu yn dri phwnc:

  1. Mae Ymatebion plant yn edrych ar ymatebion plant – y math o ymddygiad y gallai plant ei gyflwyno mewn lleoliad ysgol a'r rhesymau pam y gallant ymddwyn mewn ffyrdd penodol.
  2. Mae Rheoli dosbarth neu grŵp yn edrych ar ddulliau gwahanol o reoli ymddygiad plant.
  3. Mae Cydnabod problemau ymddygiad yn canolbwyntio ar sut y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar ymddygiad plentyn.