1 Beth yw ystyr AAA?
Mae termau fel dyslecsia, awtistiaeth, dyspracsia, syndrom Asperger, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) a Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) yn cael eu defnyddio'n gyffredin. Fodd bynnag, beth yw eu hystyr? Sut y gallwn ddiffinio plentyn sydd ag awtistiaeth, neu SIY, er enghraifft? Beth y gall y plant hyn ei wneud, a beth maent yn ei chael yn anodd? Pa gymorth fydd ei angen ar y plant hyn er mwyn iddynt fanteisio ar y cwricwlwm neu agweddau eraill ar ddarpariaeth ysgol?