1.1 Diffinio termau
Mae'r gweithgaredd cyntaf yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich dealltwriaeth o rywfaint o'r derminoleg a ddefnyddir wrth ddisgrifio anabledd neu gyflwr plentyn. Cymerwyd yr holl ddiffiniadau o wefannau Y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS) neu'r British Council.
Gweithgaredd 1
Cyfatebwch y termau canlynol â'u diffiniad cywir.
Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.
Dyslecsia
ADHD
Dyspracsia
Awtistiaeth
Dysgwr SIY
Syndrom Asperger
a.Term cyffredinol a ddefnyddir i gyfeirio at bob cyflwr ar y sbectrwm awtistig (NAS)
b.Cyflwr sy'n gwneud person yn ddi-hid, yn fympwyol ac yn orfywiog (NAS)
c.Bydd person sydd â'r cyflwr hwn yn cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol a dychymyg cymdeithasol (NAS)
d.Unrhyw un sydd wedi cael ei amlygu i iaith heblaw am Saesneg yn ystod plentyndod cynnar (y British Council)
e.Anaeddfedrwydd yn y ffordd y mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth sy'n arwain at broblemau gydag amgyffred, iaith a meddwl (NAS)
f.Anhawster dysgu penodol sy'n effeithio ar ddatblygiad sgiliau sy'n ymwneud â llythrennedd ac iaith yn bennaf (NAS)
- 1 = f
- 2 = b
- 3 = e
- 4 = a
- 5 = d
- 6 = c
Mae gan blant anghenion addysgol arbennig os oes ganddynt anhawster dysgu, sy'n gofyn am i ddarpariaeth addysgol arbennig gael ei threfnu ar eu cyfer.
Mae Côd Ymarfer AAA Cymru yn rhoi cyngor ymarferol i Awdurdodau Addysg Lleol, ysgolion a gynhelir, lleoliadau blynyddoedd cynnar ac eraill ar gyflawni eu dyletswyddau statudol er mwyn nodi, asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig plant.
Mae'r côd ymarfer yn rhoi cyngor ymarferol i awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir a lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Mae'n eu helpu i gyflawni eu dyletswyddau statudol, i nodi, asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA). Daeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2002 ac mae ar gael i'w ddarllen ar wefan Llywodraeth Cymru:
http://gov.wales/ docs/ dcells/ publications/ 131016-sen-code-of-practice-for-wales-en.pdf [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Mae'r rhan nesaf hon yn egluro'r pedwar maes sy'n gysylltiedig ag anghenion addysgol arbennig a'r diffiniad cyfreithiol o 'anabledd'.