3.5 Gwasanaethau cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill
Fel cynorthwyydd addysgu, nid ydych ar eich pen eich hun yn helpu plant ag AAA. Mae amrywiaeth eang o wasanaethau a gweithwyr proffesiynol hefyd yn rhan o'r broses hon. Efallai bod gennych gydberthynas waith uniongyrchol â'r rhain, neu eich bod mewn cysylltiad â nhw, neu efallai ddim, ond mae'n ddefnyddiol gwybod pwy ydynt.
Gweithgaredd 10
Nodwch eich atebion i'r cwestiynau canlynol:
- Pa wasanaethau neu weithwyr proffesiynol sy'n dod i mewn i ysgolion er mwyn gweithio gyda phlant ag AAA?
- Beth rydych chi'n ei wybod am y gwasanaeth neu rôl y gweithiwr proffesiynol?
- Sut y gallech gael gwybod mwy?
Sylwadau
Mae'r Cydlynydd AAA yn eich lleoliad yn fan cychwyn da os nad ydych yn siŵr beth a gynigir yn eich lleoliad. Mae'r rhyngrwyd hefyd yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol, er bod angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio ffynhonnell ddibynadwy, fel gwefan sefydliad cenedlaethol, neu safle'r llywodraeth.
Os hoffech gael gwybod mwy, rydym yn awgrymu eich bod yn darllen y ddogfen adnoddau, Rhai o'r gwasanaethau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses o helpu plant ag AAA. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]