Beth rydych wedi'i ddysgu yn yr adran hon
- Terminoleg a ddefnyddir yn gyffredin mewn ysgolion a gwasanaethau i blant a phobl ifanc ar gyfer disgrifio anabledd neu gyflwr plentyn. Buoch yn ystyried beth sy'n diffinio plant ag AAA, beth mae polisïau'n ei ddweud am y cymorth y dylid ei roi i blant ag AAA, ac yn myfyrio ar natur gynhwysol eich ymarfer.
- Nodi rhai o'r problemau ar gyfer plant ag AAA mewn perthynas â'u datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a sut maent yn rheoli cydberthnasau. Drwy straeon Jax a Joe, cawsoch eich herio i feddwl am erledigaeth a bwlio yn y byd go iawn (annigidol), ac yn yr amgylchedd ar-lein.
- Rhai o'r ffyrdd defnyddiol a'r ffyrdd a allai fod yn annefnyddiol o helpu plant ag AAA. Cawsoch eich cyflwyno i strategaethau fel straeon cymdeithasol a bod yn eiriolwr. Cawsoch eich annog i fyfyrio ar strategaethau cymorth cyffredin a ddefnyddir yn yr ystafell ddosbarth.
- Ble i ddod o hyd i ragor o adnoddau. Mae anghenion arbennig yn bwnc eang ac felly mae'r adran hon yn cynnwys cyfeiriadau at wefannau ac adnoddau y gallwch eu defnyddio pan fydd eu hangen arnoch.
Mae pob plentyn yn unigolyn a dim ond crafu'r wyneb a wnaed yn yr adran hon mewn perthynas â helpu plant ag AAA. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio ei bod wedi codi eich ymwybyddiaeth o faterion, ac wedi eich cyflwyno i rai syniadau ac arferion a all fod yn newydd i chi. Mae'r rhestr darllen pellach a'r adnoddau yno i chi eu defnyddio er mwyn gwella eich gwybodaeth, felly cymerwch olwg arnynt pan fydd gennych yr amser neu'r angen i wneud hynny.