5 Cynllun datblygu personol
Yn y gweithgaredd terfynol, byddwch yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa ymhellach. Wrth ymgymryd â'r gweithgareddau myfyriol yn yr adran hon, rydych wedi cymryd cam tuag at ddatblygu eich cynllun datblygu personol (CDP) eich hun. Mae CDP yn hyrwyddo'r syniad bod dysgu a datblygu yn weithgareddau gydol oes ac mae'n ddull strwythuredig o'ch annog i fyfyrio wrth ymarfer a chynllunio eich gyrfa.
Gweithgaredd 4
Gwyliwch y clip fideo hwn, What's it all about? [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy'n amlinellu'r pum cam sy'n rhan o gynllun datblygu personol:
- Nodi
- Cynllunio
- Gweithredu
- Cofnodi
- Adolygu.
Nawr eich bod yn gwybod beth yw ystyr cynllun datblygu personol, defnyddiwch y pum cam i lunio eich CDP eich hun. Un man cychwyn da fyddai defnyddio'r myfyrdod o Weithgareddau 2 a 3 fel sail ar gyfer meddwl am gynllunio ar gyfer y dyfodol a gweithredu.
Gadael sylw
Efallai eich bod eisoes wedi meddwl am eich dysgu a'ch datblygiad gyrfa eich hun, ond mae llunio cynllun datblygu personol yn rhoi strwythur i'r broses hon ac yn rhoi rhywbeth i gyfeirio'n ôl ato ac adeiladu arno dros amser.