2 Bathodyn a datganiad o gyfranogiad
Gobeithio eich bod yn teimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth wrth gasglu'r bathodynnau ar gyfer Cefnogi datblygiad plant. Os hoffech gael eich atgoffa sut i ennill eich bathodynnau ar ôl cwblhau adran, ewch i Sut gallaf ennill fy mathodyn? [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Os hoffech gael eich atgoffa sut i gael eich datganiad cyfranogi ar ôl ennill pob un o'r bathodynnau, ewch i Sut gallaf gael fy natganiad cyfranogi?
Pan fyddwch wedi cwblhau adran yn llwyddiannus ac wedi llwyddo i basio'r asesiad cwis cysylltiedig, byddwch yn cael eich bathodyn Cefnogi datblygiad plant ar gyfer yr adran honno. Caiff neges e-bost ei hanfon atoch i'ch hysbysu eich bod wedi ennill bathodyn, a bydd yn ymddangos yn y rhan Fy mathodynnau yn eich proffil OpenLearn Create. Gall gymryd hyd at 24 awr i fathodyn gael ei roi.
Caiff neges e-bost ei hanfon atoch i'ch hysbysu eich bod wedi cael datganiad cyfranogi. Unwaith y bydd y datganiad ar gael (fel ffeil PDF), byddwch yn gallu ei weld a'i lawrlwytho o'ch proffil OpenLearn Create.
Gall gymryd hyd at 24 awr i roi'r datganiad cyfranogi ar ôl i chi gwblhau'r cwrs.