3 Ble nesaf?
Gobeithio eich bod wedi mwynhau Cefnogi datblygiad plant, a gobeithio bod y cwrs wedi'ch ysbrydoli i barhau i ddysgu. Nodir isod rai dolenni allweddol ar gyfer ble yr hoffech fynd nesaf.
Datblygu eich gyrfa
Mae'r dolenni hyn o'r TES a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yn trafod rôl cynorthwyydd addysgu, y sgiliau trosglwyddadwy sy'n ofynnol ac yn rhoi cipolwg i chi ar y lefelau gwahanol o gael mynediad i'r proffesiwn:
- TES: Sut i ddod yn gynorthwyydd addysgu [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
- Proffiliau swyddi'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol: Cynorthwy-ydd addysgu
- Sgiliau ar gyfer ysgolion: Amrywiaeth o adnoddau yn ymwneud â'r rolau amrywiol mewn ysgolion.
Gwirfoddoli
Efallai yr hoffech ystyried gwirfoddoli i ymestyn a gwella eich sgiliau a'ch gwybodaeth. Gallai'r gwefannau hyn eich helpu i feddwl am eich opsiynau:
Rhwydwaith Arfer Gorau
Mae gan y Rhwydwaith Arfer Gorau dros 10 mlynedd o brofiad yn cyflwyno cyrsiau a hyfforddiant ar gyfer staff cymorth.
Undebau llafur
Mae undebau llafur yn cynnig rhaglenni hyfforddiant a datblygiad ar gyfer eu haelodau, yn aml mewn partneriaeth â darparwyr fel Y Brifysgol Agored. Siaradwch â chynrychiolydd eich undeb i gael gwybod am unrhyw gyfleoedd lleol.
Mwy o gyrsiau anffurfiol am ddim
Mae'r Brifysgol Agored hefyd yn cynnig rhagor o gyrsiau rhagarweiniol ar-lein a chyrsiau sgiliau ar gyfer astudio, ac y mae pob un ohonynt ar gael am ddim ar-lein.
Mae FutureLearn hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar-lein y gallech fod am eu hystyried.
Y Brifysgol Agored
Efallai yr hoffech ystyried dilyn un o gyrsiau Mynediad Y Brifysgol Agored i'ch paratoi ar gyfer astudio'n llwyddiannus tuag at gymhwyster addysg uwch a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau y gallech fod am eu hystyried.
Cymwysterau addysg, plentyndod ac ieuenctid
Os hoffech edrych yn fanylach ar astudiaethau plentyndod, yna ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Y Brifysgol Agored ar gymwysterau Addysg, Plentyndod ac Ieuenctid.
Arall
Efallai y byddwch yn cofio bod Heather yn hapus â'i rôl fel Cynorthwyydd Addysgu, ond ganddi hi ddiddordeb mewn magu profiad fel cynorthwyydd addysgu cyn dod yn athro neu ddilyn cymhwyster addysgu. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'ch darparwr TAR (tystysgrif addysg i raddedigion) lleol er mwyn cael gwybod am eu gofynion penodol o ran cynnwys y cwricwlwm cenedlaethol sy'n ofynnol ganddynt mewn gradd. Bydd hefyd yn ofynnol i chi gael TGAU mewn Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a Gwyddoniaeth neu gymhwyster cyfatebol cyn i chi ddod yn athro.