Ydych chi erioed wedi sylwi pa mor aml mae angen sgiliau mathemateg arnoch yn eich bywyd bob dydd? Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn mathemateg. Mae wedi ei ddylunio i’ch ysbrydoli chi i wella’ch sgiliau mathemateg ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd a aeth yn angof.
Bydd gweithio trwy’r enghreifftiau a gweithgareddau rhyngweithiol y cwrs
hwn yn eich helpu chi i redeg cartref neu symud ymlaen yn eich gyrfa, ymysg
pethau eraill. Er mwyn cwblhau’r cwrs, bydd arnoch angen cyfrifiannell, llyfr
nodiadau ac ysgrifbin.
Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn
digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich
diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os
hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol.
Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar lein ar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich Datganiad Cyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn.
Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg 343336yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 344337 a gyda chymorth caredig Dangoor Education 345338, cangen addysgol The Exilarch’s Foundation.
Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes a
Tracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru,
Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewn
cydweithrediad ag Anna E. Crossland, Middlesborough College, gan ddefnyddio
deunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y National
Extension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a West Herts
College.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- deall problemau ymarferol, nad yw rhai ohonynt yn arferol
- adnabod y sgiliau mathemateg sydd eu hangen arnoch i fynd i'r afael â phroblem
- defnyddio mathemateg mewn ffordd drefnus i ddod o hyd i'r datrysiad rydych yn ei geisio
- defnyddio gweithdrefnau gwirio priodol ar bob cam
- esbonio'r broses a ddefnyddioch i gael ateb a thynnu casgliadau syml ohoni.
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/05/2019
Wedi'i ddiweddaru: 15/04/2020