Mae bod â sgiliau da mewn mathemateg yn bwysig mewn bywyd beunyddiol. Yn wir, mae’n bosibl nad ydych wedi sylwi pa mor aml rydych yn defnyddio mathemateg o ddydd i ddydd. Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn mathemateg, ac mae wedi’i gynllunio i’ch ysbrydoli i wella eich sgiliau mathemateg presennol ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd y gallech fod wedi’u hanghofio.
Bydd gweithio drwy’r enghreifftiau a’r gweithgareddau
rhyngweithiol yn y cwrs hwn yn eich helpu, ymhlith pethau eraill, i gyfrifo
faint o baent y bydd ei angen arnoch ar gyfer addurno, a throsi arian, neu
symud ymlaen yn eich gyrfa neu addysg bellach. I gwblhau’r cwrs hwn, bydd angen
i chi ddefnyddio cyfrifiannell, papur a phen, a phrotractor.
Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol.
Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar lein ar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich Datganiad Cyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn.
Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg 336yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 337 a gyda chymorth caredig Dangoor Education 338, cangen addysgol The Exilarch’s Foundation.
Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes a Tracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewn cydweithrediad ag Joanne
Davies, West Herts College, gan ddefnyddio deunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y National Extension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a Middlesborough College.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- deall problemau ymarferol, nad yw rhai ohonynt yn arferol
- adnabod y sgiliau mathemateg sydd eu hangen arnoch i fynd i'r afael â phroblem
- defnyddio mathemateg mewn ffordd drefnus i ddod o hyd i'r datrysiad rydych yn ei geisio
- defnyddio gweithdrefnau gwirio priodol ar bob cam
- esbonio'r broses a ddefnyddioch i gael ateb a thynnu casgliadau syml ohoni.
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/05/2019
Wedi'i ddiweddaru: 15/04/2020