Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Prifysgol y Plant – Cyrsiau ar-lein am ddim

Diweddarwyd Dydd Llun, 10 Ionawr 2022
Dewch i ddarganfod cyrsiau ar-lein y gallwch eu defnyddio i ennill stampiau Prifysgol y Plant.

Childrens Uni CY

Os ydych chi wedi cofrestru gyda Phrifysgol y Plant, gallwch ddefnyddio’r cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yma i ennill stampiau Prifysgol y Plant trwy ddilyn pump o gamau syml.

  1. Ewch ati i greu cyfrif OpenLearn, ac yna dewch yn ôl at y dudalen hon.
  2. Dewiswch gwrs o blith y rhestr isod neu porwch trwy wefan OpenLearn.
  3. Ar ôl ichi ddewis cwrs, fe welwch fod yna fanylion yn nodi faint o oriau y dylech chi eu treulio yn ei gwblhau – gwnewch gofnod o hyn.
  4. Gweithiwch trwy’r cwrs wrth eich pwysau. Ar ôl ichi ei gwblhau, gallwch lawrlwytho tystysgrif neu fathodyn digidol i brofi eich bod wedi’i gwblhau.
  5. Anfonwch y dystysgrif neu’r bathodyn at eich darparwr Prifysgol y Plant. Dylech nodi hefyd faint o oriau y gwnaethoch chi eu treulio yn cwblhau’r cwrs, er mwyn gweld faint o stampiau y dylech chi eu cael.

Dysgu rhagor am Brifysgol y Plant.

Mae'r casgliad yma hefyd ar gael yn Saesneg. | This collection is also available in English.

 

Cyrsiau ar-lein am ddim

Cymerwch gipolwg ar ddetholiad o gyrsiau isod, neu porwch trwy wefan OpenLearn fesul pwnc.

Dysgwch am ein planed


Children Uni - Subject icons

Ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am y blaned sy’n gartref inni? Dewch i ddarganfod cyrsiau’n sôn am ecosystemau, daeargrynfeydd, daeareg, dŵr, y tywydd a mwy. Hefyd, mae yna gyrsiau’n ymwneud â’r her fwyaf sy’n ein hwynebu – sef newid hinsawdd. Sut ddyfodol sydd gan ein planed? Allwn ni sicrhau dyfodol cynaliadwy?

Mwy o gyrsiau am ein planed

 

Dysgu ieithoedd


Children Uni - Subject icons

Ydych chi wedi bod awydd dysgu iaith newydd erioed? Efallai eich bod eisiau dysgu rhai pethau elfennol er mwyn cynllunio taith, neu efallai eich bod eisiau treiddio’n ddyfnach i iaith rydych chi’n ei dysgu’n barod. Efallai eich bod yn dymuno dysgu rhywbeth hollol newydd. Yn ôl dihareb o Tsieina, ‘Mae dysgu iaith yn cynnig ffenestr arall y gallwch weld y byd trwyddi.’

Mwy o gyrsiau iaith

 

Ewch ar daith i’r gofod


Children Uni - Subject icons

Mae seryddiaeth yn bwnc enfawr – yn llythrennol, mae mor fawr â’r Bydysawd. Mae’n cynnwys elfennau o wahanol faint – o’r atomau sy’n sail i blanedau a sêr, i glystyrau anferth sy’n cynnwys miloedd o alaethau, gyda phob galaeth yn cynnwys biliynau o sêr. Os ydych chi wedi edrych i fyny ar y sêr erioed a meddwl tybed beth sy’n llechu yn y gofod, dyma’r cyrsiau i chi.

Mwy o gyrsiau am y gofod

 

Iechyd a’r corff dynol


Children Uni - Subject icons

Un galon, un ymennydd, 30 triliwn o gelloedd. Beth yn union sy’n peri i’r corff dynol weithio? Sut allwn ni fynd i’r afael â phrif heriau iechyd ein hoes? Mae gwyddoniaeth wedi datblygu llawer erbyn hyn, ond mae gennym lawer mwy i’w ddeall amdanon ni ein hunain. O eneteg i faeth, gallwch ddod o hyd i gyrsiau’n sôn am ein cyrff, yn ogystal â dysgu am agweddau ar ofal iechyd modern.

Mwy o gyrsiau am iechyd a'r corff dynol

 

Celf, cerddoriaeth a llenyddiaeth


Children Uni - Subject icons

O baentiadau mewn ogofâu i nofelau, o Mozart i’r Beatles – mae bodau dynol wedi eu mynegi eu hunain a’u gwirioneddau mewn cynifer o wahanol ffyrdd. Gall y cyrsiau hyn eich helpu i ddeall yr amrywiaeth o weithiau, testunau a dulliau sy’n rhan annatod o hanes diwylliannol y byd.

Mwy o gyrsiau am gelf, cerddoriaeth a llenyddiaeth

 

Anifeiliaid a phlanhigion


Children Uni - Subject icons 2

O fananas i forfilod gleision, mae yna amrywiaeth anferthol o anifeiliaid a phlanhigion o’n cwmpas. Mae nifer ohonyn nhw’n byw yn rhai o’r amodau anoddaf ar y blaned ac maen nhw wedi addasu’n berffaith er mwyn goroesi. Mae rhai yn teithio cannoedd o filltiroedd bob blwyddyn, tra mae eraill yn aros yn yr un lle am gannoedd o flynyddoedd. Gall y cyrsiau hyn roi cipolwg ichi ar y straeon mwyaf rhyfeddol sydd gan fyd natur i’w hadrodd.

Mwy o gyrsiau am anifeiliaid a phlanhigion

 

Hanes


Children Uni - Subject icons 2

Caiff pob un ohonon ni ein siapio gan y byd sydd o’n cwmpas, a bydd y cyrsiau hyn yn trafod sut ddaeth y byd hwnnw i fodoli. Gall dysgu am hanes eich cludo i fydoedd gwahanol lle mae’r bobl yn ymddangos yn estron – ond pobl yr un fath yn union â ni oedden nhw. Mae hanes yn mynd i’r afael â’r dasg anodd a diddiwedd honno o geisio creu darlun llawn, cywir a diduedd o’r gorffennol – yr unig ffordd, mewn gwirionedd, o ddeall y presennol.

Mwy o gyrsiau am hanes

 

Mathemateg, ffiseg a pheirianneg


Children Uni - Subject icons 2

Gellir dadlau bod modd disgrifio popeth dan haul trwy ddefnyddio mathemateg. Gall mathemateg gyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a byd yn llawn posibiliadau. O’r strwythurau ffisegol a’r peiriannau y mae bodau dynol yn eu creu i’r byd isatomig dirgel sy’n sail iddyn nhw, gall y cyrsiau hyn eich helpu i ddeall mathemateg yn well gyda chymwysiadau o’r ‘byd go iawn’ mewn ffiseg a pheirianneg.

Mwy o gyrsiau am fathemateg a pheirianneg

 

Sgiliau bywyd, gwaith ac astudio


Children Uni - Subject icons 2

Pan feddyliwch chi am eich dyfodol eich hun, mae hi bob amser yn beth da ichi baratoi. Pa un a fyddwch chi’n mentro i’r byd gwaith neu’n parhau i astudio ar lefel uwch, gall y cyrsiau hyn eich cyflwyno i rai sgiliau defnyddiol ac ymarferol ar gyfer y siwrnai sydd o’ch blaen.

Mwy o gyrsiau sgiliau bywyd, gwaith ac astudio

 

Ynglŷn â Phrifysgol y Plant


Ydych chi eisiau cael rhagor o wybodaeth am Brifysgol y Plant a sut mae’n gweithio? Dyma gyflwyniad llawn hwyl wedi’i animeiddio! I gael fersiwn o'r fideo hon gydag is-deitlau Cymraeg, ewch i https://bit.ly/3De2vXh.

 

 

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Prifysgol y Plant.

 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?