1 Beth yw efelychu digidol?
Mae efelychiad digidol gofal iechyd yn defnyddio technolegau uwch i greu senarios realistig ar gyfer hyfforddi, gwerthuso a gwella arferion gofal iechyd. Dyma rai cymwysiadau allweddol:
- Hyfforddiant proffesiynol gofal iechyd: mae hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ymarfer gweithdrefnau a gwneud penderfyniadau mewn amgylchedd heb risg. Mae hyn yn cynnwys defnyddio manecwiniaid, realiti rhithwir, a realiti estynedig (AR) i efelychu sefyllfaoedd clinigol go iawn fel llawdriniaethau, ymatebion brys, a gweithdrefnau gofal iechyd arferol.
- Gwella gofal cleifion: gellir defnyddio efelychiadau i fodelu prosesau gofal cleifion a nodi gwelliannau posibl. Gellir datblygu efelychiadau o gofnodi digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut i reoli sefyllfaoedd yn unol â hynny.
- Fframweithiau rheoleiddio: defnyddir efelychu hefyd i werthuso technolegau iechyd digidol o safbwynt rheoleiddio. Er enghraifft, mae'r fframwaith Efelychu ar gyfer Rheoleiddio SaMD (SIROS) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn helpu i asesu dulliau efelychu clinigol i sicrhau eu bod yn bodloni safonau rheoleiddio, a gellir gweld y safonau’r Association for Simulated Practice in Healthcare (ASPiH) llawn yma.
Mae'r rhaglenni hyn yn tynnu sylw at sut mae efelychu digidol yn trawsnewid gofal iechyd drwy wella addysg, gwella gofal cleifion, ac yn cefnogi'r gwaith o werthuso technolegau arloesol.
Er bod efelychu ac efelychu digidol yn trawsnewid addysg ym maes gofal iechyd, mae'r profiad dysgu efelychiadol yn cynnig agwedd 'beth' i'r profiad dysgu. Fodd bynnag, gall proses bellach fel ôl-drafodaeth gynnig cyfleoedd dysgu ychwanegol i archwilio dysgu ehangach a dyfnach ynglŷn â 'pam' a 'sut' gall dysgu o brofiad rhithwir droi'n welliannau diriaethol mewn ymarfer gofal iechyd.