5 Sut mae efelychiad digidol yn lleihau'r risg i ofal cleifion?
Mae efelychiad digidol yn lleihau'r risg i ofal cleifion mewn sawl ffordd effeithiol ac yn ystyried y pwyntiau canlynol.
- Nodi bygythiadau diogelwch cudd: gall efelychiadau ddatgelu risgiau cudd mewn systemau gofal iechyd, fel diffygion dylunio neu aneffeithlonrwydd gweithdrefnol cyn iddynt achosi niwed. Drwy gynnal efelychiadau mewn amgylcheddau clinigol go iawn (efelychu yn y fan a'r lle), gall timau gofal iechyd nodi a mynd i'r afael â'r bygythiadau cudd hyn i ddiogelwch.
- Gwell hyfforddiant a datblygu sgiliau: gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ymarfer triniaethau cymhleth ac ymatebion brys mewn amgylchedd wedi'i reoli, heb risg. Mae'r ymarfer hwn sy'n cael ei ailadrodd yn helpu i feithrin hyfedredd a hyder, gan leihau'r tebygolrwydd o gamgymeriadau yn ystod gofal gwirioneddol i gleifion.
- Gwell gwaith tîm, sgiliau arwain a sgiliau cyfathrebu: mae efelychiadau yn aml yn cynnwys timau rhyngddisgyblaethol, gan hyrwyddo gwell cyfathrebu a chydweithio. Mae'r gwaith tîm hwn yn hanfodol mewn sefyllfaoedd lle mae llawer o straen, gan sicrhau bod holl aelodau'r tîm yn ymwybodol o'u rolau ac yn gallu cydweithio'n effeithiol.
- Ystyriaeth ffactorau dynol: mae efelychiadau'n cyfrif am ffactorau dynol, fel straen a blinder, sy'n gallu effeithio ar berfformiad. Drwy hyfforddi mewn sefyllfaoedd realistig, gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddatblygu strategaethau i reoli'r ffactorau hyn a chynnal safonau uchel o ofal.
- Hyfforddiant safonedig: mae efelychiadau digidol yn cynnig profiad hyfforddi cyson i bob dysgwr, gan sicrhau bod pawb yn bodloni'r un safonau cymhwysedd uchel. Mae'r safoni hwn yn helpu i leihau amrywioldeb mewn gofal ac yn gwella diogelwch cyffredinol cleifion.
Ffynhonnell: 5 Rheswm Pam y Dylech Ystyried Efelychu i Liniaru Risg. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Er bod yn rhaid cydnabod bod ganddynt 'fuddiant' mewn hyrwyddo efelychiad, roedd llawer o'r pum pwynt a gyflwynwyd uchod hefyd wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau ymarfer gofal iechyd eraill, fel Knight et al, 2018 ac Ordu et al, 2019.
Drwy integreiddio efelychiad digidol mewn hyfforddiant ac ymarfer gofal iechyd, gellir lleihau'r risg i ofal cleifion yn sylweddol, gan arwain at ddarparu gofal iechyd mwy diogel a mwy effeithiol.
Gweithgaredd 2
Rhan 1: Myfyrio
Gwnewch eich nodiadau eich hun i ymateb i'r cwestiynau canlynol.
Pa werth allai efelychu digidol ei gynnig i chi a'ch maes gwaith?
- Ystyriwch y cyfleoedd a'r cyfyngiadau posibl o ddefnyddio efelychiad digidol yn eich lleoliad ymarfer eich hun.
- Os yw'n bosibl, trafodwch hyn gyda chydweithiwr a gwnewch nodiadau ar eich casgliadau.
a.
a) Drwy gyfyngu hyfforddiant yn llym i wybodaeth ddamcaniaethol.
b.
b) Drwy ddileu'r angen am unrhyw offer hyfforddi corfforol.
c.
c) Drwy ganiatáu ar gyfer efelychiadau mewn amgylcheddau clinigol go iawn (yn y fan a'r lle), datgelu risgiau cudd cyn i niwed ddigwydd.
d.
d) Drwy ganolbwyntio ar berfformiad unigol yn unig, nid diffygion yn y system.
Yr ateb cywir yw c.
a.
a) Dod i gysylltiad â gweithdrefnau newydd unwaith yn unig.
b.
b) Darparu amgylchedd di-risg ar gyfer ymarfer gweithdrefnau cymhleth ac ymatebion brys dro ar ôl tro.
c.
c) Cywiro pob gwall yn awtomatig heb ymyrraeth gan y dysgwyr.
d.
d) Canolbwyntio'n llwyr ar wybodaeth ddamcaniaethol nad oes angen ei chymhwyso'n ymarferol.
Yr ateb cywir yw b.
a.
a) Lleihau'r rhyngweithio rhwng timau rhyngddisgyblaethol.
b.
b) Hyrwyddo gwell cyfathrebu a chydweithio o fewn timau rhyngddisgyblaethol yn ystod sefyllfaoedd o straen mawr.
c.
c) Annog unigolion i wneud penderfyniadau heb fewnbwn y tîm.
d.
d) Cyfyngu ar ymwybyddiaeth o rolau ymysg aelodau'r tîm.
Yr ateb cywir yw b.