Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i efelychu digidol ym maes gofal iechyd
Cyflwyniad i efelychu digidol ym maes gofal iechyd

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Dulliau gwahanol mewn efelychiad

Mae efelychu digidol ym maes gofal iechyd yn ddull deinamig ac integredig sy'n cyfuno gwahanol ddulliau technolegol a dynol i greu amgylcheddau dysgu ymdrochol, gyda'r bwriad o hyrwyddo addysg, gwella gofal cleifion, a chefnogi'r gwaith o werthuso technolegau newydd.

Llun o grŵp o bobl yn cynnal ôl-drafodaethau yn dilyn addysg efelychu digidol wedi'i efelychu gan gyfrifiadur.

Dyma rai o’r prif ddulliau:

  1. Cleifion Safonol (SPs): mae'r rhain yn actorion hyfforddedig sy'n efelychu achosion cleifion go iawn, gan ganiatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ymarfer sgiliau clinigol a chyfathrebu mewn senario realistig.
  2. Hyfforddwyr tasgau rhannol: modelau ffisegol neu ddyfeisiau sy'n atgynhyrchu rhannau penodol o'r corff dynol neu weithdrefnau gofal iechyd yw'r rhain. Maen nhw'n cael eu defnyddio i ymarfer sgiliau fel pwytho, pigiadau neu fewndiwbio.
  3. Realiti Rhithwir: Mae yn creu amgylcheddau ymdrochol sy'n cael eu cynhyrchu gan gyfrifiadur lle gall dysgwyr ryngweithio â senarios a modelau 3D. Mae'r dull hwn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer triniaethau cymhleth a hyfforddiant llawfeddygol.
  4. Realiti Estynedig (AR): Mae AR yn troshaenu gwybodaeth ddigidol i'r byd go iawn, gan wella'r profiad dysgu drwy gynnig cyd-destun ac arweiniad ychwanegol yn ystod gweithdrefnau.
  5. Efelychiadau cyfrifiadurol: mae'r rhain yn rhaglenni meddalwedd sy'n efelychu sefyllfaoedd clinigol a phrosesau gwneud penderfyniadau. Maent yn aml yn cynnwys elfennau rhyngweithiol ac adborth i helpu dysgwyr i wella eu sgiliau.
  6. Ymdrochi clinigol efelychiadol: mae hyn yn golygu creu amgylchedd clinigol realistig lle gall dysgwyr ymarfer rheoli gofal cleifion mewn lleoliad wedi'i reoli, heb risg. Mae'n aml yn cynnwys defnyddio manecwiniaid manwl-gywir sy'n gallu dynwared ymatebion cleifion go iawn.
  7. Efelychiadau hybrid: mae'r rhain yn cyfuno gwahanol ddulliau, fel defnyddio hyfforddwyr tasgau rhannol gyda chleifion safonol, i greu senarios hyfforddi mwy cynhwysfawr a realistig.

Mae'r dulliau hyn yn cynnig ffyrdd amrywiol ac effeithiol o wella dysgu a chanlyniadau gofal cleifion. (Conelius et al, 2023; CISL, D.D.).

Gweithgaredd 4

Timing: 10 munud

Myfyrio

Gwnewch eich nodiadau eich hun i ymateb i'r cwestiynau canlynol.

Pa ddulliau fyddai'n gweithio yn eich maes ymarfer chi orau a pham?

  • Meddyliwch am y cyfyngiadau a’r cyfleoedd posibl o ddefnyddio efelychu digidol yn eich lleoliad ymarfer eich hun.
  • Os yw'n bosibl, trafodwch hyn gyda chydweithiwr a gwnewch nodiadau ar eich casgliadau.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).