3 Cyfyngiadau efelychu digidol mewn addysg gofal iechyd
- Diffyg profiad yn y byd go iawn: ni all efelychiadau ailadrodd natur anrhagweladwy a chymhlethdod sefyllfaoedd clinigol go iawn yn llawn. Gall hyn gyfyngu ar allu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau mewn cyd-destun byd go iawn.
- Problemau technegol: mae efelychiadau'n dibynnu'n fawr ar dechnoleg, sydd weithiau'n gallu methu neu fod yn anodd ei defnyddio. Gall trafferthion technegol amharu ar ddysgu ac achosi rhwystredigaeth.
- Costau uchel: gall datblygu a chynnal rhaglenni efelychu o ansawdd uchel fod yn ddrud. Mae hyn yn cynnwys cost meddalwedd, caledwedd a hyfforddiant i addysgwyr.
- Hyfforddiant sgiliau rhyngbersonol cyfyngedig: er bod efelychiadau'n gallu addysgu sgiliau gweithdrefnol, efallai na fyddant yn addysgu sgiliau rhyngbersonol fel cyfathrebu, empathi a gwaith tîm yn effeithiol, sy'n hanfodol mewn gofal iechyd.
- Hygyrchedd: mae’n bosibl na fydd gan bob myfyriwr fynediad at y dechnoleg angenrheidiol neu'r rhyngrwyd cyflym sydd ei hangen ar gyfer efelychu digidol effeithiol, gan arwain at wahaniaethau mewn cyfleoedd dysgu.
- Gorddibyniaeth ar efelychu: mae perygl y bydd myfyrwyr yn dibynnu gormod ar efelychiadau ac na fyddant yn cael digon o brofiad ymarferol gyda chleifion go iawn.
Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, mae efelychiadau digidol yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr mewn addysg gofal iechyd, yn enwedig pan gânt eu defnyddio ar y cyd â dulliau addysgu eraill.
Gweithgaredd 1
Rhan 1: Myfyrio
Gwnewch eich nodiadau eich hun i ymateb i'r cwestiynau canlynol.
Sut ydych chi'n teimlo am ddefnyddio efelychiadau digidol mewn addysg gofal iechyd?
- Meddyliwch am y cyfleoedd a'r cyfyngiadau posibl o ddefnyddio efelychiad digidol yn eich lleoliad ymarfer eich hun.
- Os yw'n bosibl, trafodwch hyn gyda chydweithiwr a gwnewch nodiadau ar eich casgliadau.
a.
a) Mae'n lleihau'n uniongyrchol yr angen am brofiad ymarferol i gleifion.
b.
b) Mae'n gwella diogelwch cleifion yn sylweddol drwy leihau camgymeriadau yn ystod triniaethau yn y byd go iawn.
c.
c) Mae'n disodli'r angen am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
d.
d) Mae'n cyfyngu ar fynediad at hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bell.
Yr ateb cywir yw b.
a.
a) Angen cyn lleied o amser ymarfer â phosibl oherwydd technoleg uwch.
b.
b) Mae’n cynnig amgylchedd dysgu anhrefnus ac anrhagweladwy.
c.
c) Cynnig ymarfer dro ar ôl tro mewn lleoliad diogel a rheoledig i fireinio technegau a magu hyder.
d.
d) Canolbwyntio ar wybodaeth ddamcaniaethol yn unig heb ei chymhwyso'n ymarferol.
Yr ateb cywir yw c.
a.
a) Mae'n annog ymarfer unigol, ynysig heb ryngweithio mewn grŵp.
b.
b) Mae'n aml yn ymgorffori senarios tîm i wella cyfathrebu a chydweithio.
c.
c) Mae'n dileu'r angen am unrhyw gyfarfodydd tîm wyneb yn wyneb.
d.
d) Mae'n cynnig strwythur hyfforddi anhyblyg, na ellir ei addasu.
Yr ateb cywir yw b.