Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ymarfer corff ac iechyd meddwl
Ymarfer corff ac iechyd meddwl

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Ymarfer corff ac iechyd meddwl

Cyflwyniad

Deilliannau Dysgu

Mae gweithgarwch corfforol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar agweddau ar iechyd meddwl a llesiant seicolegol fel iselder, hwyliau a gweithrediad gwybyddol. Yn y cwrs hwn byddwn yn edrych ar sut mae ymarfer corff yn gallu effeithio ar wahanol agweddau ar ein hiechyd meddwl. Byddwn yn defnyddio astudiaeth achos Malcolm.

Byddwn yn dechrau drwy ddiffinio beth yw ystyr y term ‘iechyd meddwl’. Mae Corbin et al. (2008, t.5) yn diffinio iechyd meddwl a lles da fel dim salwch meddwl fel iselder, a’r gallu i ymdopi â heriau bob dydd mewn ffordd gadarnhaol, optimistaidd ac adeiladol. Gan ddefnyddio’r diffiniad hwn, mae ymarfer corff yn gallu bod yn fuddiol i’ch iechyd meddwl mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae ymarfer corff yn gallu atal neu leihau salwch meddwl fel iselder. Yn ail, mae ymarfer corff yn gallu gwella hwyliau a lleihau lefelau straen, gan ein galluogi i fynd i’r afael â heriau bob dydd mewn ffordd fwy cadarnhaol, optimistaidd ac adeiladol.

Mae'r cwrs OpenLearn hwn yn rhan sydd wedi'i haddasu o gwrs y Brifysgol Agored E233 Seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff: dull astudiaeth achos [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .