Ymarfer corff ac iechyd meddwl
Ymarfer corff ac iechyd meddwl

Dechreuwch y cwrs yma am ddim nawr. Crëwch gofrif a mewngofnodwch. Ar ôl o chi gwblhau cwrs byddwch yn derbyn datganiad cyfranogiad neu fathodyn digidol os oes un ar gael.

Cwrs am ddim

Ymarfer corff ac iechyd meddwl

1 Ymarfer corff ac iechyd meddwl

Gweithgaredd 1 Manteision seicolegol ymarfer corff

Timing: Dylech ganiatáu tua 30 munud

Edrychwch ar Ganllaw’r Sefydliad Iechyd Meddwl ar ‘Sut mae gofalu am eich iechyd meddwl gan ddefnyddio ymarfer corff’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Gwnewch restr o’r prif fanteision seicolegol a allai fod yn gysylltiedig â gwneud gweithgarwch corfforol a rhai o’r astudiaethau ymchwil sy’n ategu’r manteision hyn.

Sylw

Y prif fanteision a nodir yn y canllaw yw:

  1. Mae ymarfer corff yn gysylltiedig â bod yn fwy meddyliol effro.
  2. Mae ymarfer corff yn gallu arwain at fwy o egni a hwyliau da.
  3. Mae ymarfer corff yn gallu arwain at fwy o hunan-dyb.
  4. Mae ymarfer corff yn gallu arwain at lai o straen a gorbryder.
  5. Mae ymarfer corff yn gallu atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu.
  6. Mae ymarfer corff yn gallu gwella ansawdd bywyd y rheini sy’n profi problemau iechyd meddwl.

Gweithgaredd 2 Tystiolaeth i gefnogi'r cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl

Timing: Dylech ganiatáu tua 30 munud

Yn y gweithgaredd blaenorol, gwnaethoch edrych ar rywfaint o’r dystiolaeth sy’n cysylltu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol â gwell iechyd meddwl. Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn edrych ar bwysigrwydd ymchwil o’r fath a’r mathau o dystiolaeth ymchwil sy’n bodoli.

Gwrandewch ar Drac 1, ‘Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: beth yw’r dystiolaeth?’ a gwnewch y tasgau isod. Yn y clip hwn byddwch yn clywed Dr Gaynor Parfitt a’r Athro Adrian Taylor yn trafod y dystiolaeth sy’n bodoli i gefnogi'r syniad bod cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl. Mae Dr Parfitt a'r Athro Adrian Taylor yn seicolegwyr ymarfer corff ym Mhrifysgol Caerwysg, gan arbenigo yn y maes ymchwil hwn.

Darparwyd y fersiwn sain Gymraeg gan artistiaid trosleisio. Mae’r ffeil sain wreiddiol ar gael yma.

Download this audio clip.Audio player: Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: beth yw’r dystiolaeth?
Yr Athro Adrian Taylor - Seicolegydd Ymarfer Corff, Prifysgol Caerwysg
Pan rwy’n siarad â myfyrwyr a phobl sy’n ymgymryd â rhaglenni ymarfer corff, does fawr neb yn dweud wrthyf i nad yw ymarfer corff yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Felly yn amlwg, mae pobl yn parhau i wneud ymarfer corff, [ac oherwydd] eu bod yn teimlo’n well, maent yn parhau i’w wneud. Wrth edrych ar y dystiolaeth wyddonol ynghylch a yw gweithgarwch corfforol yn gwella iechyd meddwl, mae’n her wahanol iawn. Pam fod y cwestiwn hwnnw mor bwysig? Oherwydd fe allai arwain at adnoddau ychwanegol yn y gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu rhoi i raglenni ymarfer corff er mwyn trin pobl â phroblemau iechyd meddwl. Felly mae casglu tystiolaeth wyddonol yn hollbwysig mewn gwasanaeth iechyd sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Felly, pa dystiolaeth sydd bod ymarfer corff yn gwella iechyd meddwl yng nghyswllt cyflyrau gwahanol? Yn gyntaf, gadewch i mi ddechrau drwy edrych ar ymarfer corff a’r driniaeth ar gyfer iselder. Mae llawer o astudiaethau wedi’u cynnal o ran effeithiau gweithgarwch corfforol ac iselder, dim gymaint yng nghyswllt pobl sydd â lefelau clinigol penodol o iselder, ond yn yr astudiaethau hynny sydd wedi’u cynnal, mae consensws cyffredinol bod ymarfer corff yn helpu i leihau iselder.
Dr Gaynor Parfitt – Seicolegydd Ymarfer Corff, Prifysgol Caerwysg
Un o’r [darnau tystiolaeth] mwyaf cadarn yw [tystiolaeth] o waith ymchwil epidemiolegol sy’n dangos, os yw meini prawf penodol yn cael eu bodloni ar gyfer problem iechyd sy’n cael ei drin drwy ymyrraeth benodol, os oes cysondeb data ar draws y rhywiau, er enghraifft, ac os oes cydlyniad ar draws gwledydd o ran maint yr effaith – bydd newid mawr yn digwydd. Ar gyfer yr holl bethau hynny, dangoswyd yn bendant fod ymarfer corff yn gwella iselder.
Yr Athro Adrian Taylor - Seicolegydd Ymarfer Corff, Prifysgol Caerwysg
Dim bob amser, ac os edrychwch ar y treialon mwy manwl, roedd adolygiad mwy diweddar a gyhoeddwyd yn 2009 gan Mead wedi canfod nad yw’r treialon mwyaf manwl yn cefnogi manteision cryf iawn ymarfer corff o’i gymharu â dim byd. Mae ymarfer corff yn helpu, o’i gymharu â therapi gwybyddol ymddygiadol; mae’r manteision yn debyg. Felly, yn gyffredinol, a yw ymarfer corff yn gweithio ai peidio? Mae’n anodd dweud. Os byddwch yn cynnal astudiaethau, er enghraifft, lle nad yw’r bobl sy’n asesu iselder yn gwybod a yw’r person yn gwneud ymarfer corff ai peidio, yna nid yw’r astudiaethau hynny’n dangos effaith mor gryf.
Dr Gaynor Parfitt – Seicolegydd Ymarfer Corff, Prifysgol Caerwysg:
Hefyd, yn ôl rhywfaint o ymchwil ymateb i ddos, os byddwn yn mesur lefelau iechyd seicolegol pobl sy’n gwneud ymarfer corff yn erbyn y rhai sydd ddim yn gwneud ymarfer corff, mae ymarfer corff a gwneud swmp penodol o weithgarwch corfforol dros wythnos yn eich amddiffyn rhag iselder yn y dyfodol.
Yr Athro Adrian Taylor - Seicolegydd Ymarfer Corff, Prifysgol Caerwysg
Mae problemau gyda rhywfaint o’r ymchwil sydd wedi’i wneud dros gyfnod o 30 mlynedd. Efallai nad yw’r safon - sef lefel y dystiolaeth wyddonol - mor dda ag y gallai fod, er enghraifft ar gyfer treialon cyffuriau sydd â dwbl yr effeithiau cudd sy’n digwydd ar hap. Felly mae’n anodd dweud. Er hyn, os byddech yn gofyn i’r mwyafrif o bobl, byddant yn dweud bod ymarfer corff yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well.
Dr Gaynor Parfitt – Seicolegydd Ymarfer Corff, Prifysgol Caerwysg
Iselder sydd â’r berthynas gryfaf [ag ymarfer corff]; nid yw’n cael effaith mor gryf ar orbryder a hunan-dyb. Ac fel arfer, rydyn ni’n edrych ar ymarfer corff fel triniaeth ategol yn hytrach na thriniaeth annibynnol. Felly, pan fyddwn yn ei ddefnyddio gyda seicotherapi, neu gyda therapi cyffuriau, yna mae tystiolaeth ei fod yn darparu budd ychwanegol.
Yr Athro Adrian Taylor - Seicolegydd Ymarfer Corff, Prifysgol Caerwysg
Yng nghyswllt cyflyrau iechyd meddwl eraill, efallai byddwn yn meddwl am straen a gorbryder. Ac eto, mae tystiolaeth bod ymarfer corff yn lleihau lefelau cyffredinol gorbryder dros amser, a hefyd, ... - ar ôl sesiynau ymarfer corff - efallai bydd gorbryder ac ymateb i straen yn cael ei leihau dros dro. Felly, er enghraifft, i egluro’r datganiad diwethaf mewn termau ymarferol, os byddech yn gwneud ymarfer corff cyn cyfweliad gyda’ch bos neu cyn eiliad sy’n achosi straen, efallai na fyddai eich pwysedd gwaed a’ch ymateb i straen mor dda ar ôl un sesiwn ymarfer corff. Mae tystiolaeth bod ymarfer corff yn lleihau ein lefelau cyffredinol o orbryder a chynnwrf, gan gynnwys pwysedd gwaed ac ati. Yng nghyswllt cyflyrau iechyd meddwl eraill, efallai bod y rhai nodweddiadol rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw sydd wedi’u cynnwys fwyaf mewn llenyddiaeth yn fathau o salwch meddwl mwy difrifol, fel sgitsoffrenia. Mae’r dystiolaeth yn dangos na fydd yn newid eich cyflwr meddygol. Mae’n gallu gwella rhai o’r symptomau, fel teimlo’n flin ac yn ddiwerth, ond ni fydd yn [eich] newid [chi[. Ni fydd yn gwella’ch salwch seicotig yn gyfan gwbl, ond yn sicr bydd yn gwella ansawdd eich bywyd ac, eto, mae’r sail dystiolaeth yn gwella. Er enghraifft, [efallai] bydd rhywun sydd â salwch meddwl difrifol, yn aml oherwydd sgil effeithiau meddyginiaeth, yn rhoi llawer o bwysau ymlaen, felly gellid defnyddio ymarfer corff fel rhan o’r rhaglen rheoli pwysau a fydd yn gwella hunan-barch pobl yn y pendraw.
End transcript: Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: beth yw’r dystiolaeth?
Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: beth yw’r dystiolaeth?
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
  1. Gwnewch restr o’r mathau o ymchwil maen nhw’n eu trafod (ee ymchwil epidemiolegol). Chwiliwch am ddiffiniadau ar gyfer y mathau hyn o ymchwil gan ddefnyddio’r rhyngrwyd.)
  2. Pam ei bod yn bwysig darparu tystiolaeth ymchwil o’r cysylltiad rhwng ymarfer corff ac iechyd meddwl?
  3. Beth sy’n cael ei ddweud am ansawdd peth o’r ymchwil sy’n bodoli?

Sylw

  1. Dr Parfitt a’r Athro Taylor yn trafod y ddau brif fath o ymchwil:
    • Ymchwil ymateb i ddosau. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mewn astudiaethau ymateb i ddos mae’r cyfranogwyr yn cael dos o rywbeth, ac ar ôl hynny mae eu hymateb yn cael ei fesur. Yn yr achos hwn, byddai’r cyfranogwyr yn cael ‘dos’ o weithgarwch corfforol a byddai’r effaith ar eu hiechyd meddwl (yr ymateb) yn cael ei mesur.
    • Ymchwil epidemiolegol. Mae epidemioleg yn golygu astudio nifer yr achosion o iechyd a chlefydau a pha mor gyffredin ydyn nhw mewn poblogaeth a sut maent yn cael eu rheoli. Yng nghyd-destun y gweithgaredd hwn, byddai gan ymchwil epidemiolegol ddiddordeb mewn patrymau iechyd meddwl a gweithgarwch corfforol ar draws poblogaeth.
  2. Mae’r Athro Taylor yn awgrymu po fwyaf o dystiolaeth sydd i ddangos cysylltiad cadarnhaol rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl, y mwyaf tebygol yw y bydd gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu hannog i ddarparu ymarfer corff fel triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl. Ond, oni bai bod modd darparu tystiolaeth, ni fydd y llywodraeth yn buddsoddi mewn ymarfer corff fel triniaeth ar gyfer cyflyrau o’r fath.
  3. Mae’r Athro Taylor yn awgrymu er bod y mwyafrif o bobl yn credu bod ymarfer corff yn gwneud i chi deimlo’n well, nid yw ansawdd yr ymchwil sy’n edrych ar ymarfer corff ac iechyd meddwl bob amser cystal ag y gallai fod. Mae hyn yn aml oherwydd y gall fod yn anodd rheoli gweithgarwch corfforol.
E233_3

Ewch â'ch dysgu ymhellach

Gall gwneud y penderfyniad i astudio fod yn gam mawr, a dyna pam y byddwch eisiau Prifysgol y gellir ymddiried ynddi. Mae gan y Brifysgol Agored 50 mlynedd o brofiad yn cyflwyno dysgu hyblyg ac mae 170,000 o fyfyrwyr yn astudio gyda ni ar hyn o bryd. Cymerwch gip ar holl gyrsiau'r Brifysgol Agored.

Os ydych chi'n newydd i astudio ar lefel addysg uwch, darganfyddwch fwy am y mathau o gymwysterau rydyn ni'n eu cynnig, gan gynnwys ein cyrsiau lefel Mynediad a Thystysgrifau.

Ddim yn barod ar gyfer astudiaeth Prifysgol yna porwch dros 1000 o gyrsiau am ddim ar OpenLearn a chofrestrwch i'n cylchlythyr i glywed am gyrsiau newydd am ddim, wrth iddynt gael eu rhyddhau.

Bob blwyddyn, mae miloedd o fyfyrwyr yn penderfynu astudio gyda'r Brifysgol Agored. Gyda dros 120 o gymwysterau, mae gennym y cwrs iawn i chi.

Gofynnwch am brosbectws Prifysgol Agored