Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ymarfer corff ac iechyd meddwl
Ymarfer corff ac iechyd meddwl

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Rôl ymarfer corff o ran lleihau gorbryder ac iselder

Awgrymwyd bod un oedolyn o bob chwech ym Mhrydain Fawr yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl, fel iselder neu orbryder (Cooper a Bebbington, 2006), sy’n golygu bod trin y cyflyrau hyn yn effeithiol yn fater pwysig iawn. Mae meddyginiaeth gwrthiselder gwrth-iselder yn cael ei rhagnodi i drin iselder yn aml, ond nid yw cydymffurfiad o ran cymryd y meddyginiaethau hyn yn dda iawn yn aml ac maen nhw’n gallu cael sgil effeithiau negyddol (Lawlor a Hopker, 2001). Mae ymarfer corff wedi’i awgrymu fel triniaeth ychwanegol i feddyginiaeth a thriniaethau eraill, neu yn lle’r rheini.

Gweithgaredd 3 Ffit i frwydro yn erbyn iselder

Timing: Dylech ganiatáu tua 20 munud

Gwyliwch y fideo o’r enw ‘Fit to fight depression’ ar YouTube. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] Mae’r fideo Saesneg hwn yn amlinellu gwaith y prifysgolion yn ne orllewin Lloegr sy’n archwilio rôl ymarfer corff o ran lleihau iselder. Beth yw manteision defnyddio ymarfer corff i drin iselder yn hytrach na meddyginiaeth gwrthiselder?

Os ydych yn darllen y cwrs hwn fel e-lyfr, gallwch weld y fideo yma: Fit to Fight Depression

Gadael sylw

Mae’r fideo’n rhoi darlun diddorol o iselder yn y DU yn gyffredinol a gwaith y prifysgolion sy’n rhan o’r prosiect. Mae’r ymchwilwyr yn y fideo’n awgrymu y gallai ymarfer corff fod yn driniaeth well na meddyginiaeth oherwydd mae’n gallu rhoi ymdeimlad o reolaeth a hunanreolaeth i bobl ac nid oes ganddo lawer o sgil effeithiau.

Astudiaeth achos: Malcolm

Mae Malcolm wedi bod yn cael amser anodd yn ddiweddar. Bu ei frawd farw chwe mis yn ôl wedi salwch hir. Roedd yn agos iawn at ei frawd ac mae wedi cael trafferth dod i delerau â’r golled. Yn raddol, mae Malcolm wedi mynd yn fwy mewnblyg ac isel. Rhai boreau, nid yw’n gallu wynebu gadael y tŷ a mynd i’r gwaith ac mae’n aml yn treulio’r diwrnod yn y gwely yn teimlo’n isel ac yn anhapus.

Mae meddyg Malcolm wedi dweud wrtho ei fod yn dioddef o iselder. Mae’r meddyg yn amharod i ragnodi meddyginiaeth gwrthiselder i Malcolm, felly, yn hytrach, mae’n argymell ymarfer corff. Fodd bynnag, mae Malcolm ychydig yn amheus a fydd ymarfer corff yn gallu ei helpu.