Casgliad
Yn y cwrs hwn, sydd am ddim, sef Ymwybyddiaeth ofalgar ym maes iechyd meddwl ac mewn carchardai, rydych wedi dysgu am ymwybyddiaeth ofalgar a sut y gellir ei defnyddio mewn carchardai ac ym maes cwnsela. Rydych chi hefyd wedi trin a thrafod llawer ynglŷn â beth ydy ymwybyddiaeth ofalgar a’r profiad y mae therapyddion a chleientiaid yn ei gael ohoni ac wedi pwyso a mesur yr amrywiol ffyrdd y gellir ei chynnwys mewn therapi.
Rydych chi wedi ystyried arferion myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar, a ffyrdd o wneud ymwybyddiaeth ofalgar yn rhan o fywyd bob dydd. Rydych chi wedi clywed am y dystiolaeth ymchwil sydd ar gael o blaid ymwybyddiaeth ofalgar o safbwynt anawsterau iechyd meddwl ac yng nghyswllt adsefydlu a lleihau aildroseddu yng nghyd-destun cyfiawnder troseddol. Rydych chi wedi dysgu sut mae therapi meddylgar yn gallu gweithio’n ymarferol.
Ac yn olaf, rydych chi wedi datblygu eich sgiliau gwerthuso beirniadol, drwy drin a thrafod peth o'r feirniadaeth y mae'r ‘mudiad ymwybyddiaeth ofalgar’ wedi'i gael.
Mae'r cwrs OpenLearn hwn yn rhan sydd wedi'i haddasu o gwrs y Brifysgol Agored DD310 Cwnsela a seicoleg fforensig: ymchwilio i drosedd a therapi [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.