1 Syniadau allweddol ym maes gwaith cymdeithasol
Bydd yr adran hon yn eich cyflwyno i nodweddion ymarfer gwaith cymdeithasol da. Byddwch yn ystyried pedair elfen sylfaenol o waith cymdeithasol a’r gwerthoedd sy’n sail i ymarfer proffesiynol. Efallai y cewch eich synnu faint o wybodaeth sydd gennych yn barod a sut y gall y wybodaeth hon fod o fudd i ymarfer gwaith cymdeithasol.
Mae’r model yn Ffigur 1 sy’n dangos y pedair elfen arfer da yn cydnabod bod yn rhaid i addysg am waith cymdeithasol ymdrin â mwy na gwybodaeth ddamcaniaethol a dysgu academaidd a bod yn rhaid ystyried sut i gymhwyso’r wybodaeth hon i’r lleoliad gwaith cymdeithasol, y sgiliau a ddefnyddir a’r sylfaen gwerthoedd sy’n rhan annatod o waith uniongyrchol gyda phobl.
Y pedair elfen arfer da yw:
- gwybodaeth
- gwerthoedd a moeseg
- y broses gwaith cymdeithasol
- sgiliau.
Bydd eich dealltwriaeth o’r pedair elfen hyn o arfer da a’r ffordd y byddwch yn eu cymhwyso yn llywio eich ymarfer a’ch myfyrdodau ar yr hyn y byddwch yn ei ddysgu am waith cymdeithasol.