Casgliad
Mae’r cwrs wedi ymdrin ag ystod eang o faterion sydd wedi’u cynllunio i’ch annog i fyfyrio ar eich profiadau bywyd eich hun a phrofiadau a chanfyddiadau defnyddwyr gwasanaeth ac ymarferwyr. Mae’r teitl, ‘Canolbwyntio ar unigolion’, yn eich atgoffa mai hanfod gwaith cymdeithasol yw gweithio gyda phobl, yn ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr, a’ch bod chithau hefyd yn un o’r bobl yn y broses hon. Wrth fynd drwy’r cwrs, gobeithio ei fod wedi eich annog i fyfyrio ar eich ymarfer, eich teimladau, eich meddyliau a’ch ymatebion eich hun. Er mwyn sicrhau eich bod wedi deall yr hyn sydd yn y deunydd hwn, efallai y bydd yn ddefnyddiol ichi ystyried y cwestiynau craidd canlynol er mwyn gweld a allwch eu hateb yn awr.
Cwestiynau craidd
Pam bod bywgraffiadau’n bwysig?
Sut mae dealltwriaeth o ddamcaniaeth hunaniaeth ac ymlyniad yn cyfrannu at ymarfer gwaith cymdeithasol?
Pa nodweddion y mae defnyddwyr gwasanaeth yn eu gwerthfawrogi mewn gweithwyr cymdeithasol?
Pa werthoedd sy’n rhan annatod o hunaniaeth gweithiwr cymdeithasol proffesiynol?
Beth yw ystyr ymarfer myfyriol?
Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .