1.2 Sefyll allan
Mae gwaith gwirfoddol yn gwneud argraff ar gyflogwyr, ond beth yw'r ffeithiau caled?
Canfu gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan asiantaeth Reeds Recruitment ar ran yr elusen Timebank y ffeithiau canlynol:
- byddai 73 y cant o gyflogwyr yn cyflogi ymgeisydd â phrofiad gwirfoddoli yn hytrach nag ymgeisydd heb brofiad o'r fath;
- mae 94 y cant o gyflogwyr o'r farn y gall gwirfoddoli ychwanegu at sgiliau;
- noda 58 y cant o gyflogwyr y gall profiad gwaith gwirfoddol mewn gwirionedd fod yn fwy gwerthfawr na phrofiad mewn swydd â thâl;
- roedd 94 y cant o gyflogeion a fu'n gwirfoddoli er mwyn meithrin sgiliau newydd wedi cael budd o hynny naill ai drwy gael eu swydd gyntaf, drwy wella eu cyflog neu drwy gael dyrchafiad.
Yn amlwg, nid oes amheuaeth bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi buddiannau gwaith gwirfoddol. Er y gall pob math o waith gwirfoddol fod o ddiddordeb iddynt, mae rhai gyrfaoedd lle mae profiad gwaith perthnasol yn gynsail.