3 Beth fyddai'n addas ar fy nghyfer?
Erbyn hyn, dylech fod wedi creu darlun realistig am yr hyn rydych am ei gyflawni a'r hyn sydd gennych i'w gynnig a dylech allu cyfateb yr holl bethau hyn yn erbyn rhai gweithgareddau posibl.
Dyma rai ffyrdd gwahanol o ddechrau arni:
Edrychwch unwaith eto ar rai o'r datganiadau yn Adran 1.3. Eu nod oedd gwneud i chi feddwl, ond efallai y byddwch yn gallu uniaethu â rhai o'r gwirfoddolwyr.
Mae gwefannau ardderchog i'ch helpu i gyfateb eich diddordebau, eich profiad a'ch amgylchiadau personol i swyddi gwag gwirioneddol, felly efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gofnodi eich manylion personol ar rai o'r gwefannau canlynol gan ddefnyddio eu cwymplenni.
Awgrymir ffynonellau eraill ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli yn adran gyfeirio'r uned hon.
1) Do-it
Gallwch gofnodi eich dewis ardal ddaearyddol a'ch argaeledd, a dewis eich math o ddiddordeb a'r math o weithgaredd yr hoffech ei wneud, e.e. cyfeillio, gyrru, gwaith cyfreithiol, artistig ac ati.
2) Volunteering England
Volunteer Development Scotland
Volunteering Ireland
Gwirfoddoli Cymru
Mae'r gwefannau yn rhestru'r prif gategorïau o waith gwirfoddol, megis lles anifeiliaid, y celfyddydau a threftadaeth, datblygu cymunedol ac ymgyrchu, ac iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys adrannau sy'n ymwneud â phobl ifanc, yr henoed, pobl anabl ac ati). Ceir is-gategorïau hefyd, e.e. ar gyfer gwirfoddoli ar ymgyrchoedd, gan gynnwys gwahaniaethu/hawliau dynol a sifil, yr amgylchedd a chadwraeth a phleidiau gwleidyddol. Mae gwefan Volunteering England hefyd yn cynnwys blogiau gan wirfoddolwyr.
3) Directgov
Chwiliwch am gyfleoedd i wirfoddolwyr, yn y gymuned yn bennaf. Mae'r cwymplenni o weithgareddau yn amrywio o gyllid i adloniant a'r cwymplenni o ddiddordebau yn amrywio o dreftadaeth i bobl ddigartref a thai.
4) Elusennau
Mae gan wefannau llawer o elusennau hefyd gwymplenni o sgiliau/diddordebau, lefel ymrwymiad, lleoliad a dewis fath o rôl, e.e. Sue Ryder Care a'r RSPCA. Mae elusennau eraill fel CSV yn darparu ystod o weithgareddau i ddewis o'u plith, er enghraifft, rhoi cymorth i deulu sydd mewn perygl neu helpu mewn ysgol leol.
Mae'r rhan fwyaf yn llawn gwybodaeth ac yn hawdd i'w defnyddio. Gallant hefyd ehangu eich gorwelion o ran y math o waith y gallwch ei wneud. Nid yw llawer o bobl byth yn meddwl y tu hwnt i'r agwedd codi arian, ond yn yr RSPCA, er enghraifft, gall gwirfoddolwyr fynd â chŵn am dro yn y lloches leol, ymweld â chartrefi darpar fabwysiadwyr neu wneud gwaith cyfrifiadurol gartref (diweddaru'r wefan neu gronfeydd data ac ati).
5) Sefydliadau eraill
Cofrestrwch eich sgiliau yn uniongyrchol ar gronfa ddata sefydliad a byddant yn dewis gweithgareddau priodol ar eich cyfer. Er enghraifft, mae cronfa ddata gwirfoddolwyr y Rotari yn cynnwys unigolion ag amrywiaeth eang o sgiliau megis gweithredwyr radio, cyfreithwyr, gwenynwyr, rheolwyr adnoddau naturiol a phlymwyr.
Mae cyfleoedd i wirfoddoli yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae gan Sefydliad y Rotari 32,000 o glybiau mewn 200 o wledydd gydag 1.2 miliwn o aelodau. Eu rôl yw 'gwasanaethu cymunedau gartref a thramor'.
6) Canolfannau gwirfoddoli
Gallwch ymweld â'ch canolfan wirfoddoli leol i gael sgwrs am yr hyn yr hoffech ei wneud gydag un o'r cydgysylltwyr gwirfoddoli, a fydd yn gyfarwydd â'r holl gyfleoedd yn eich ardal.
7) Astudiaethau achos
Gallwch ddod o hyd i'r rhain ar wefannau'r rhan fwyaf o elusennau mawr a'r gwefannau a nodir uchod. Maent yn rhoi cipolwg go iawn ar weithgareddau a chyflawniadau gwirfoddolwyr. Mae gwefan Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd y Brifysgol Agored yn cynnwys stori John Pierre-Madigan, sy'n sôn am werth gwirfoddoli.