Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi
Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi

Cyflwyniad

Mae unrhyw bapur newydd lleol yn disgrifio cyflawniadau diweddaraf gwirfoddolwyr yn y gymuned: codi arian ar gyfer ysbyty, creu pwll bywyd gwyllt. Mae'r buddiannau i'r gymuned yn amlwg, ond mae'r uned hon yn ystyried sut y gall ymgymryd â gwaith gwirfoddol wella eich cyfleoedd cyflogaeth.

Bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar sut y gall gwaith gwirfoddol wella rhagolygon swydd y rheini sydd wrthi'n chwilio am waith neu sy'n ystyried newid gyrfa. Mae gwirfoddoli yn creu argraff ar gyflogwyr, ond nid yw llawer o wirfoddolwyr yn gwerthfawrogi pa sgiliau perthnasol y maent wedi'u meithrin nac yn gwybod sut i'w cyflwyno mewn ceisiadau a chyfweliadau. Byddwn yn ystyried strategaethau ymarferol i wneud y gorau o'ch profiad gwirfoddoli a rhoi mantais i chi yn y farchnad swyddi.

  1. Pam gwneud hynny?
  2. Beth y gallaf ei gynnig?
  3. Beth fyddai'n addas ar fy nghyfer?
  4. Dechrau arni
  5. Y camau nesaf
  6. Gwneud argraff ar gyflogwyr - sut i gyfleu buddiannau a gwerth profiad gwirfoddol
  7. Cwestiynau Cyffredin
  8. Ffynonellau cyfeirio

Erbyn diwedd yr uned hon, dylech werthfawrogi'n llawn yr amrywiaeth o waith gwirfoddol sy'n bosibl a dylech feddu ar ymwybyddiaeth o'r gwahanol ffyrdd y gall eich helpu i gyflawni eich amcanion, boed hynny'n bersonol neu mewn perthynas â swydd.

Os hoffech astudio'n ffurfiol gyda ni, efallai yr hoffech ystyried y cyrsiau eraill a gynigir gennym yn y maes pwnc hwn. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Mae'r uned hon hefyd ar gael yn Saesneg ar OpenLearn.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.