Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi
Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Gwneud argraff ar gyflogwyr

'69 per cent of employers have done voluntary work in their lifetime, with over half stating that volunteering gave them people skills which helped them get to where they are today. Half of employers say that job candidates with volunteering experience are more motivated than other candidates.'

James Caan, Dragons' Den

Nid oes unrhyw amheuaeth y bydd y sgiliau 'meddal' y gallwch eu meithrin wrth wneud eich gwaith gwirfoddol o fudd wrth chwilio am swydd, ond sut y gallwch ddarbwyllo'r cyflogwyr eich bod yn bodloni eu gofynion?

unrhyw amheuaeth y bydd y sgiliau 'meddal' y gallwch eu meithrin wrth wneud eich gwaith gwirfoddol o fudd wrth chwilio am swydd, ond sut y gallwch ddarbwyllo'r cyflogwyr eich bod yn bodloni eu gofynion?

Bydd hysbysebion swydd fel arfer yn dynodi'n union pa 'sgiliau trosglwyddadwy' sydd eu hangen arnynt, yn ogystal ag unrhyw gymwysterau ffurfiol neu brofiad. Er enghraifft, mae 'rhaid meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog, a'r gallu i weithio ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm' yn ofyniad cyffredin iawn.

Y gyfrinach yw eu dadansoddi'n ofalus, ac wedyn, gan ddefnyddio'r geiriau cywir, cyflwyno tystiolaeth gadarn sy'n gwneud i'r cyflogwr fod am eich cyfarfod er mwyn cael gwybod mwy. Felly pan fyddant yn gofyn am 'sgiliau cyfathrebu', ystyriwch yr ymadrodd yn fanylach. Meddyliwch am yr holl wahanol ffyrdd y gallwch gyfathrebu - er enghraifft:

  • gwrando a dangos empathi
  • cyfleu gwybodaeth yn glir ac yn gywir
  • mynegiant ysgrifenedig da mewn adroddiadau, erthyglau neu lythyrau
  • addasu arddull a chynnwys yn briodol wrth gyfathrebu, gan ddibynnu ar y gynulleidfa
  • defnyddio iaith mewn ffordd ddarbwyllol i negodi, darbwyllo, cyfryngu, gwerthu acati
  • siarad yn gyhoeddus neu wneud cyflwyniadau
  • deall gwybodaeth.

Peidiwch â chyflwyno rhestr ar hap o'ch holl sgiliau i gyflogwyr; rhaid i chi eu darbwyllo mai dyma'r union sgiliau sydd eu hangen arnynt. Byddant yn gwerthfawrogi eich bod wedi dadansoddi'r hyn sydd ei angen ar gyfer eu swydd ac wedi cyfateb hynny i wahanol enghreifftiau o'ch profiad.

Sut y gallwch eu darbwyllo mai chi yw'r person cywir ar gyfer y swydd?

Cyn y gallwch eu darbwyllo mai chi yw'r union berson sydd ei angen arnynt, yn gyntaf mae angen i chi wybod beth maent ei eisiau. Ceir adran ddefnyddiol ar wefan Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd y Brifysgol Agored a fydd yn eich tywys drwy'r broses.

Gweithgaredd 7

Pa bynnag sgiliau y byddwch wedi'u meithrin - a dylai fod gennych gofnod da os ydych wedi bod yn cadw eich cofnod gwirfoddoli - mae angen i chi eu rhoi mewn cyd-destun tystiolaeth berthnasol er mwyn eu cyflwyno mewn ceisiadau swydd.

Profwch eich gwybodaeth am yr hyn y mae cyflogwyr am ei gael drwy enwi o leiaf chwe sgil 'feddal' drosglwyddadwy y mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr eu heisiau.

Ateb

Mae'r sgiliau a restrir ar wefan Prospects yn ymdrin â'r rhan fwyaf o'r sgiliau poblogaidd:

  • Cyfathrebu: Y gallu i gyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig neu drwy gyfrwng electronig mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer y gynulleidfa.
  • Gwaith tîm: Bod yn aelod adeiladol o dîm, gan gyfrannu'n ymarferol at lwyddiant ytîm
  • Arweinyddiaeth: Gallu cymell ac annog eraill tra'n cymryd yr awenau.
  • Blaengaredd: Y gallu i weld cyfleoedd ac i bennu a chyflawni nodau.
  • Datrys problemau: Ystyried pethau mewn ffordd resymegol er mwyn pennumaterion allweddol, gan gynnwys yn aml meddwl yn greadigol.
  • Y gallu i fod yn hyblyg/addasu: Y gallu i ymdrin â newid ac addasu i sefyllfaoeddnewydd.
  • Hunanymwybyddiaeth: Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau a'ch sgiliau, a meddu aryr hyder i'w cyflwyno.
  • Ymroddiad/cymhelliant: Meddu ar yr egni a'r brwdfrydedd i gyflawni prosiectau.
  • Sgiliau rhyngbersonol: Y gallu i uniaethu'n dda ag eraill ac i feithrin cydberthnasaugwaith da.
  • Rhifedd: Cymhwysedd a dealltwriaeth o ddata rhifol, ystadegau a graffiau.

Gweithgaredd 8

Darllenwch yr astudiaeth achos yn Nhaflen waith 4. Mae Jack yn gwerthuso ei brofiad gwirfoddol a pha gamau a gymerwyd, gan ddefnyddio grid STCCG a 'geiriau gweithredu' (gweler hefyd Daflen waith 5 yn Adran 6).

Ceisiwch gwblhau'r grid gwag a ddarperir yn Nhaflen waith 4 gan ddefnyddio enghreifftiau o'ch gweithgareddau eich hun i arddangos eich sgiliau a sut y gwnaethoch eu meithrin. Bydd y wybodaeth yn eich siart STCCG yn werthfawr iawn ar gyfer y cwestiynau sefyllfaol hynny sy'n aml yn ymddangos ar ffurflenni cais, megis 'dywedwch wrthym am amser pan wnaethoch weithio mewn tîm; disgrifiwch beth roeddech yn ceisio ei gyflawni a'ch rôl chi yn hynny'. Bydd y siart STCCG yn ymdrin â phob un o'r tair agwedd ar y cwestiwn hwn. Er mwyn sicrhau y caiff eich tystiolaeth yr effaith fwyaf, defnyddiwch 'eiriau gweithredu' cryf (gweler Taflen waith 5 yn Adran 6).

Taflen waith 4

Edrychwch ar y ddogfen88.3KB PDF document
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 9

Edrychwch ar Daflen waith 5, dewiswch rai geiriau sy'n ymddangos yn berthnasol i'r hyn rydych wedi'i gyflawni a'u cyflwyno i un o'ch cofnodion yn eich cofnod gwirfoddoli (Taflen waith 3) fel y bo'n briodol. Efallai yr hoffech edrych ar yr astudiaeth achos yn Nhaflen waith 4 eto er mwyn gweld y datblygiadau a gychwynnwyd ac a gofnodwyd gan Jack.

Taflen waith 5

Edrychwch ar y ddogfen43.8KB PDF document
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).