Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi
Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Cwestiynau Cyffredin

Mae'r cwestiynau hyn yn cynrychioli materion cyffredinol am 'ddechrau arni', ond maent yn canolbwyntio'n arbennig ar ofynion arbennig, boed hynny am wirfoddoli ar gyfer grwpiau oedran penodol neu wirfoddoli rhithwir i'r rheini nad oes ganddynt amser rheolaidd i ymrwymo, neu'r rheini â phroblemau symudedd.

A fydd gwirfoddoli yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Ateb

Mae'r rheoliadau budd-daliadau yn glir y gallwch wirfoddoli ac na fydd yn effeithio ar eich taliadau budd-dal, cyhyd â'ch bod yn bodloni'r amodau ar gyfer eich budd-dal penodol. Fodd bynnag, dylech roi gwybod i'ch swyddfa budd-daliadau os byddwch yn dechrau gwirfoddoli. I gael rhagor o wybodaeth a gwybodaeth gyswllt, darllenwch 'Gwirfoddoli tra'n cael budd-daliadau'.

Ffynhonnell: Directgov

Faint o oriau yr wythnos y mae angen i mi wirfoddoli?

Ateb

Fel gwirfoddolwr, chi sy'n penderfynu cymaint neu gyn lleied o amser y gallwch ei sbario. Wrth i chi feddwl am wirfoddoli, byddwch yn realistig am faint o amser y gallwch ymrwymo iddo'n rheolaidd. Mae'n llawer gwell ymrwymo i awr neu ddwy yr wythnos a gallu gwneud hynny fel rhan o'ch bywyd na cheisio cynnig ymrwymiad amser afrealistig na allwch gadw ato. Mae cyfleoedd i gyfateb i bob lefel o ymrwymiad amser.

A fydd angen gwiriad cefndir yr heddlu arnaf a sut y cynhelir gwiriad o'r fath?

Ateb

Fel arfer, bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (gwiriadau CRB gynt) yng Nghymru ac yn Lloegr neu wiriad Datgelu yn yr Alban ar gyfer unrhyw rôl lle y byddwch yn gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed. Gofynnir i chi gwblhau'r ffurflen a gaiff wedyn ei phrosesu (fel arfer, y sefydliad fydd yn talu am hyn, nid chi). Mae'n ffordd o sicrhau nad oes gennych unrhyw gollfarnau troseddol perthnasol sy'n eich atal rhag gweithio gyda grwpiau o'r fath. Fel arfer, dim ond ychydig wythnosau y mae'r gwiriadau yn cymryd i'w prosesu ac fel arfer, ni fydd unrhyw reswm pam y dylech bryderu. POCVA (Diogelu Plant ac Oedolion Agored i Niwed) yw'r gwiriad sy'n cyfateb i wiriad CRB yng Ngogledd Iwerddon ac fe'i cynhelir gan AccessNI. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, gelwir y broses yn ddilysu Garda; y sefydliad sy'n gyfrifol am drefnu hyn.

Pa sgiliau/profiad sydd eu hangen arnaf?

Ateb

Mae hyn yn amrywio'n sylweddol gan ddibynnu ar y math o rôl rydych yn chwilio amdani. Efallai y cewch eich synnu nad oes angen unrhyw sgiliau na phrofiad penodol ar lawer o rolau gwirfoddoli - yn aml, mae brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu yn llawer pwysicach.

Ar gyfer rhai rolau, bydd angen sgiliau neu brofiad penodol arnoch, ond fwy na thebyg bod mwy gennych i'w gynnig nag a feddyliwch. Er enghraifft, os oes gennych sgiliau llythrennedd neu rifedd rhesymol, yna gallwch wirfoddoli fel tiwtor i blant neu ddysgwyr sy'n oedolion. Felly hefyd, mae trwydded yrru, sgiliau coginio neu brofiad rhianta oll yn asedau gwerthfawr y gallwch eu cyflwyno i rolau gwirfoddoli. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, dim ond amser ac ewyllys da y bydd sefydliadau yn gofyn amdanynt, yn ogystal â pharodrwydd i 'fwrw ati' a chymryd rhan. Yn aml, caiff unrhyw hyfforddiant y bydd ei angen arnoch ei ddarparu fel rhan o'r swydd.

Gweler Adran 3 o'r uned hon.

Sut y gallaf gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli?

Ateb

Mae eich canolfan wirfoddoli leol yn fan cychwyn da. Mae sefydliadau hefyd fel CSV a'r Clwb Rotari sy'n cynnig llawer o weithgareddau gwirfoddoli gwahanol yn y gymuned, neu sefydliadau fel Do-it neu Volunteering England a Volunteer Centre Network Scotland.

Gallwch gael rhagor o fanylion ar wefan Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd y Brifysgol Agored.

Rwyf wedi ymddeol ond yn ffit ac yn llawn egni o hyd. A oes unrhyw uchafswm oedran ar gyfer gwirfoddoli?

Ateb

Nid oes uchafswm oedran ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau gwirfoddol, ond os hoffech gael manylion am raglenni arbenigol, edrychwch ar RSVP, y rhaglen wirfoddoli i bobl sydd wedi ymddeol a phobl hŷn.

Hoffwn i'm gwaith gwirfoddol arwain at fywyd cymdeithasol â phobl ifanc eraill. A oes unrhyw sefydliadau arbenigol sy'n darparu ar gyfer pobl o dan 30 oed?

Ateb

Mae gwefan vinspired, ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed, yn cynnwys rhestr ddefnyddiol o amrywiaeth o weithgareddau posibl, e.e. cyfeillio, gyrru, gwaith ymarferol ac ati.

Yn olaf, mae gan lawer o sefydliadau gwirfoddol eu Cwestiynau Cyffredin eu hunain, sy'n berthnasol i'w maes gweithgaredd penodol hwy.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .