Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi
Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Dechrau arni

Dyma gynllun gweithredu saith pwynt i'ch helpu i ddechrau arni a gweithgareddau i roi syniadau i chi am greu cyfleoedd datblygu a monitro eich cynnydd.

  1. Adolygwch eich amcanion/rhestr dymuniadau (gweler Adran 1). Byddwch yn glir am yr hyn rydych am ei gyflawni a faint o amser y gallwch ei gynnig (gallai fod yn eithaf bach!)
  2. Adolygwch eich diddordebau, a'r hyn sydd gennych i'w gynnig, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau posibl. Byddwch yn realistig (gweler Adrannau 2 a 3).
  3. Lluniwch restr fer o'r sefydliadau sy'n diwallu eich anghenion orau.
  4. Edrychwch am gyfleoedd ar eu gwefannau, ar wefannau cyffredinol (gweler ffynonellau cyfeirio) neu yn eich canolfan wirfoddoli leol. Dewch o hyd i'ch canolfan agosaf ar Do-it.
  5. Gwnewch gais - dim ond i ddau neu dri sefydliad yn ddelfrydol.
  6. Paratowch ar gyfer cyfweliadau, os bydd angen (gweler Adran 5). Fel arfer, ni fydd cyfweliad ffurfiol - dim ond sgwrs gyflym er mwyn eich cyflwyno i'r drefn.
  7. Cwblhewch yr hyfforddiant a'r sefydlu, os bydd angen. Unwaith eto, ar gyfer llawer o swyddi, dim ond sgwrs sefydlu pum munud fydd ei hangen arnoch.

Gweithgaredd 4

Unwaith y byddwch wedi dechrau gwirfoddoli, defnyddiwch Daflen waith 3 i gofnodi'r manylion ac i greu cofnod gwirfoddoli.

Taflen waith 3

Edrychwch ar y ddogfen62.8KB PDF document
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gallwch ddefnyddio'r cofnod hefyd i nodi syniadau bras ar gyfer posibiliadau gwirfoddoli pellach, fel bod gennych fformat hawdd ar gyfer cymharu trefn gwahanol sefydliadau.

Os ydych wir am wneud argraff ar gyflogwyr, mae'n hanfodol eich bod yn adolygu eich cyflawniadau yn barhaus ac yn chwilio am ffyrdd o wella eich profiad gwirfoddoli. Mae llawer o elusennau mawr yn rhagweithiol iawn o ran eich helpu i ddatblygu eich amrywiaeth o weithgareddau a chyfranogiad, ond efallai y bydd angen i chi ddangos blaengaredd a chreu eich cyfleoedd eich hun i wella eich cyflogadwyedd.

Gweithgaredd 5

Parhewch â'ch cofnod gwirfoddoli (Taflen waith 3), oni bai eich bod yn gwbl siŵr mai unig ddiben y gwirfoddoli yw mwynhau'r profiadau newydd er eu mwyn eu hunain ac er mwyn y rheini rydych yn eu helpu. Bydd angen i chi adolygu a chofnodi'r canlynol:

  • beth a wnaethoch pan oeddech yn gwirfoddoli a beth rydych wedi'i gyflawni
  • beth a ddysgoch a pha sgiliau a feithriniwyd gennych
  • pa hyfforddiant neu sefydlu a gawsoch
  • sut rydych am wella yn dilyn hynny.

Mae hyn yn arwain at y camau nesaf, gyda strategaethau i ddatblygu eich gwaith a gwella eich rhagolygon swydd ymhellach fyth.