Mae efelychu yn darparu lle diogel ar gyfer dysgu a gwella, gan arwain at weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi'u paratoi'n well ac amgylcheddau gofal cleifion mwy diogel.
Bydd y cwrs OpenLearn am ddim hwn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth o efelychu digidol a sut y gall wella dysgu ac ymarfer clinigol, nid yn unig trwy efelychu ond hefyd trwy adrodd yn ôl. O'r herwydd, mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i archwilio'r egwyddorion y tu ôl i efelychu digidol, nodi pwy sy'n elwa o gymryd rhan mewn efelychu digidol, a gwerthuso'r effaith bosibl y mae efelychu digidol yn ei chael ar gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Yn ogystal, ei nod yw datblygu dealltwriaeth o egwyddorion adrodd yn ôl, yn unol â Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Seiliedig ar Efelychu Cymru Gyfan.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
deall yr egwyddorion y tu ôl i efelychiad digidol
nodi manteision efelychu digidol i gyfranogwyr
gwerthuso effaith bosibl efelychiadau digidol ar gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol