Casgliad
Nawr eich bod wedi cwblhau'r cwrs, byddwch wedi cael cyfle i archwilio a deall y rôl y gall efelychu digidol ei chwarae wrth gefnogi hyfforddiant ac addysg ymarferwyr gofal iechyd. Yn ogystal â myfyrio ar bwyntiau allweddol yn y cwrs sy'n berthnasol i'ch maes gofal iechyd eich hun, byddwch hefyd wedi cael cyfle i feddwl am fanteision a chyfleoedd yn ogystal â rhai o anfanteision efelychu digidol. Bydd technoleg i gefnogi dysgu yn parhau i fod yn dirwedd sy'n newid, nid yn unig wrth i dechnolegau newydd ddod i'r amlwg ond wrth i integreiddio dysgu peirianyddol/deallusrwydd artiffisial (AI) gynnig cwmpas ychwanegol i ddysgwyr a hyfforddwyr wrth iddynt geisio gwella diogelwch ac ansawdd gofal cleifion a chleientiaid.
Rhagor o adnoddau:
- Digwyddiadau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (AaGIC, D.D.) – gallwch archwilio’r casgliad hwn o ddigwyddiadau a chyhoeddiadau wedi’u curadu sy'n gysylltiedig ag efelychu yng Nghymru.
- Fideos profiad gwaith Rhith-wirionedd – os ydych chi'n un o weithwyr y GIG, efallai y bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol i chi gydag enghreifftiau o wahanol senarios achos (HEE, 2022).
- Y podlediadau gorau ar efelychu gofal iechyd – SIMZINE – Marhar (2024) mae'n cyflwyno crynodeb o bodlediadau mewn efelychu ym maes gofal iechyd.
- CoDHcast | Council of Deans of Health – Podlediadau gan CoDH (2025) ar bynciau cyfoes.
- Simulation Debrief gan CAE Healthcare – podlediad am ddyfodol efelychu gofal iechyd (Patel, 2022).
- TALK: Adnodd ar gyfer ôl-drafodaeth glinigol strwythuredig (Diaz-Navarro (Diaz-Navarro et al, 2022). Bydd angen i chi greu cyfrif i gael mynediad at hwn.
Eisiau archwilio mwy? Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn yr adnoddau OpenLearn canlynol (Saesneg yn unig):
- Introducing Health Sciences: Paramedics: Trac 1
- Life or Death Decisions
- Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio
- Practice supervision and assessment in nursing
Mae’r cwrs rhad ac am ddim hwn yn gysylltiedig â chymhwyster y Brifysgol Agored R39 BSc (Anrhydedd) Nyrsio .