5. Gwaith cymdeithasol a'r iaith Gymraeg
Gall iaith fod yn agwedd arall ar anfantais ac yn ffynhonnell o wahaniaethu yn erbyn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Mae amrywiaeth cynyddol o ieithoedd i'w clywed ledled Cymru, ac mae angen i weithwyr cymdeithasol fod yn effro i anghenion defnyddwyr gwasanaethau sy'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (neu nad ydynt yn siarad Saesneg o gwbl), yn ogystal ag anghenion defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr sy'n siarad Cymraeg. Ers 2011, (pan gyflwynwyd Mesur y Gymraeg (Cymru)), mae dwy iaith swyddogol yng Nghymru (Cymraeg a Saesneg), ffaith sy'n peri her ychwanegol i'r proffesiwn gwaith cymdeithasol.
Gweithgaredd 8: Pwy sy'n siarad Cymraeg?
Ar hyn o bryd, mae tua 19% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg, sef 562,016 o bobl. Edrychwch ar y map (Ffigur 8) a Thabl 1 isod, sy'n dangos dosbarthiad siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a defnydd iaith yn ôl oedran (gan gymharu data cyfrifiad 2011 â data cyfrifiad 2001) yn y drefn honno. Ystyriwch y cwestiynau isod.
Faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn yr ardal rydych yn byw a/neu'n gweithio ynddi?
Sut mae hyn yn cymharu â'r ateb y gwnaethoch ei roi yng Ngweithgaredd 1?
Sut mae gwasanaethau yn eich ardal yn darparu ar gyfer siaradwyr Cymraeg?
Sut allai'r math hwn o wybodaeth effeithio ar ymarfer gweithiwr cymdeithasol?
Awdurdod Lleol | 3-15 oed | 16-64 oed | 65+ | Pob oedran (3+) | ||||
Nifer | Pwynt canran | Nifer | Pwynt canran | Nifer | Pwynt canran | Nifer | Pwynt canran | |
Ynys Môn | -894 | 1.3 | -309 | -2.2 | 878 | -5.0 | -325 | -2.9 |
Gwynedd | -1,430 | 0.5 | 95 | -3.1 | 489 | -5.5 | -846 | -3.6 |
Conwy | -482 | 0.7 | -32 | -1.6 | -184 | -3.2 | -698 | -2.0 |
Sir Ddinbych | -189 | 3.2 | -779 | -1.8 | -556 | -4.0 | -1,524 | -1.8 |
Sir y Fflint | -1,104 | -1.5 | -27 | -0.1 | -125 | -2.2 | -1,256 | -1.2 |
Wrecsam | -271 | -0.6 | -506 | -1.0 | -669 | -4.5 | -1,446 | -1.7 |
Powys | -841 | -0.9 | -526 | -1.3 | -457 | -4.8 | -1,824 | -2.5 |
Ceredigion | -1,057 | 1.1 | -1,692 | -4.0 | -205 | -7.6 | -2,954 | -4.7 |
Sir Benfro | -886 | -1.6 | -299 | -1.5 | 4 | -3.4 | -1,181 | -2.5 |
Sir Gaerfyrddin | 1,012 | -0.9 | -3,795 | -6.2 | -1,341 | -10.5 | -6,148 | -6.4 |
Abertawe | -5 | 1.1 | -969 | -1.5 | -1,632 | -4.6 | -2,606 | -2.0 |
Castell-nedd Port Talbot | -487 | 0.8 | -942 | -1.9 | -1,277 | -6.1 | -2,706 | -2.7 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 265 | 0.3 | 555 | 0.0 | -584 | -3.6 | -294 | -1.0 |
Bro Morgannwg | -519 | 0.3 | 702 | 0.3 | 12 | -0.7 | 195 | -0.5 |
Rhondda Cynon Taf | -954 | 1.4 | 2,093 | 1.1 | -1,306 | -3.8 | -167 | -0.2 |
Merthyr Tudful | -501 | -1.8 | 274 | 0.2 | -277 | -3.4 | -504 | -1.3 |
Caerffili | -521 | 0.8 | 1,705 | 1.1 | -170 | -1.0 | 1,014 | 0.0 |
Blaenau Gwent | -1,331 | -4.1 | 267 | 0.5 | -69 | -0.7 | -1,133 | -1.6 |
Torfaen | 1,713 | -4.8 | 596 | 0.9 | -22 | -0.3 | -1,139 | -1.3 |
Sir Fynwy | 40 | 2.6 | 1,014 | 1.6 | 38 | -0.4 | 1,092 | 0.6 |
Casnewydd | -1,165 | -1.7 | 1,181 | 0.9 | -149 | -0.8 | -133 | -0.7 |
Caerdydd | -70 | 1.3 | 4,211 | 0.3 | 90 | 0.1 | 4,231 | 0.0 |
Cymru | -15,657 | 0.0 | 2,817 | -1.0 | -7,512 | -3.3 | -20,352 | -1.7 |
Gadael sylw
Roedd nifer a chyfran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn 2011 yn llai o gymharu â'r cyfrifiad blaenorol (2001), pan ddywedodd 20.8% o'r boblogaeth eu bod yn siarad Cymraeg. Y prif resymau dros y lleihad hwn yw newidiadau demograffig, mudo (mewnfudo ac allfudo) a newidiadau yn sgiliau iaith pobl (Ystadegau Cenedlaethol Cymru, 2012). Fodd bynnag, mae cyfrifiad 2011 yn dangos cynnydd mawr yng nghyfran y plant ifanc sy'n gallu siarad yr iaith ac ychydig o gynnydd yng nghyfran yr oedolion 20-44 oed hefyd. Nid yw cyfran y siaradwyr Cymraeg ymhlith plant a phobl ifanc mewn grwpiau oedran eraill wedi newid rhyw lawer, ac mae mwy o bobl hŷn yn siarad yr iaith o hyd nag unrhyw grwpiau oedran eraill (er bod y gyfran hon yn gostwng).
Gall hyn effeithio ar wasanaethau i deuluoedd a phlant gan eu bod yn gweithio gyda nifer gynyddol o blant oedran ysgol sy'n siarad Cymraeg. Bydd angen i wasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau i bobl hŷn hefyd fod yn ymwybodol o anghenion iaith. Mae'r gofyniad hwn wedi'i gynnwys hefyd yn y ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol ar gyfer pob grŵp o ddefnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru.
Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall pobl ddwyieithog fynegi eu hunain yn wahanol yn dibynnu ar yr iaith y maent yn ei defnyddio (Altarriba and Morrier, 2004, yn Davies, 2009), a'u bod yn gallu sôn am brofiadau'n well yn iaith y profiadau hynny. Hefyd, gall pobl ddwyieithog ddefnyddio'r gair neu'r geiriau sy'n mynegi'r hyn y maent yn ceisio ei ddweud orau, gan ddefnyddio unrhyw un o'r ieithoedd sydd ganddynt, neu efallai y byddant yn defnyddio eu hail iaith er mwyn ymbellhau oddi wrth faterion a all fod yn anodd eu trafod. Mae dewisiadau iaith yn fater cymhleth ac mae angen ei drin mewn ffordd sensitif.
Mae'n debygol y bydd plant sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, er enghraifft, yn ddwyieithog ac efallai y byddant yn dod o gartrefi di-Gymraeg neu ddwyieithog. Felly, mae'n bosibl y byddant yn siarad un iaith yn yr ysgol ac un iaith neu'r ddwy iaith yn y cartref. Byddai'n bwysig i'r gweithiwr cymdeithasol fod yn ymwybodol o sut, pryd a gyda phwy yr hoffai aelodau gwahanol y teulu ddefnyddio Cymraeg a/neu Saesneg, a sut y gallai hwyluso hyn. Yn ogystal â bod yn ymwybodol o angen ieithyddol, byddai angen iddo wybod hefyd y dylai drin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal (Deddf yr Iaith Gymraeg, 1993) a byddai angen iddo roi'r egwyddor 'cynnig gweithredol' (Llywodraeth Cymru, 2012) ar waith, gan sicrhau ei fod yn nodi anghenion ieithyddol a dewis iaith defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn ei waith bob dydd. Mae'r egwyddor hon yn tynnu'r cyfrifoldeb am ofyn am wasanaeth Cymraeg oddi wrth y defnyddiwr gwasanaeth neu'r gofalwr, a all fod mewn sefyllfa o statws isel a diffyg pŵer yn barod, ac felly efallai na fydd yn teimlo ei fod yn gallu gofyn am wasanaeth Cymraeg.