6. Pyramid Rimmer
Mae Pyramid Rimmer (Ffigur 5) yn adnodd i ddeall y cyd-destun Cymreig ac ymarfer gwrthwahaniaethol. Mae'n cyd-fynd â dadansoddiad PCD Thompson uchod, ond mae'n gofyn i'r ymarferydd feddwl am ei ymarfer ei hun, gan ei helpu i nodi sut y gallai ystyried y cyd-destun y mae'n gweithio ynddo mewn ffordd fwy effeithiol.
Byddwn yn defnyddio enghraifft iechyd meddwl, ond gallech ddefnyddio'r pyramid er mwyn helpu i hyrwyddo ymarfer gwrthwahaniaethol mewn unrhyw faes ymarfer.
Ar waelod y pyramid, byddai angen i'r gweithiwr cymdeithasol sicrhau ei fod yn ymwybodol o unrhyw ddeddfwriaeth a pholisi perthnasol a fyddai'n gosod dyletswyddau arno ef neu'i gydweithwyr. Felly, byddai angen iddo wybod am Ddeddfau Iechyd Meddwl 1983 a 2007, sy'n ymwneud yn bennaf â phwerau gorfodol a rhyddhau o'r ysbyty. Byddai'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn nodi ac yn diffinio egwyddorion sylfaenol yr hyn sy'n ddisgwyliedig gan wasanaethau a'r cymorth a ddylai fod ar gael; ac mae'r strategaeth iechyd meddwl Law yn llaw at iechyd meddwl yn nodi sut y caiff gofynion y Mesur eu bodloni. Gan gofio'r egwyddor 'cynnig gweithredol' (Llywodraeth Cymru, 2016), Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesurau Iaith, 2011, byddai angen i'r gweithiwr cymdeithasol hefyd gymryd camau priodol er mwyn sicrhau ei fod wedi nodi anghenion a dewis iaith y defnyddiwr gwasanaeth yn gywir.
Wrth lunio proffil cymunedol, gallai'r gweithiwr cymdeithasol nodi faint o bobl yn y gymuned leol sydd â phroblemau iechyd meddwl ac ystyried pa wasanaethau sydd ar gael (statudol, gwirfoddol a chymunedol). Gall hefyd ofyn iddo'i hyn pa ffactorau eraill sy'n effeithio ar les meddwl person yn y gymuned. Er enghraifft, a oes lefelau uchel o ddiweithdra ac amddifadedd yn yr ardal? Gall y gweithiwr cymdeithasol hefyd ystyried ffyrdd o fynd i'r afael â stigma yn erbyn iechyd meddwl, gan ddefnyddio grwpiau cymunedol i hyrwyddo cynhwysiant efallai.
Gall diwylliant tîm y gweithiwr cymdeithasol hefyd effeithio ar ymarfer gweithwyr unigol. Gall fod yn anodd gweithredu polisïau cenedlaethol os oes gan aelodau'r tîm anawsterau ag agweddau ar iechyd neu salwch meddwl, os ydynt yn ymddwyn mewn ffordd wahaniaethol neu os oes ganddynt safbwyntiau gwahaniaethol. Ni fydd y rhan fwyaf o dimau'n gweithio fel hyn, wrth gwrs, ond weithiau mae gwerthoedd personol a phroffesiynol yn gwrthdaro â'i gilydd a gall fod yn fuddiol ystyried y rhain fel tîm, er mwyn hyrwyddo datblygiad ac arfer da.
Ar frig y pyramid, gofynnir i'r ymarferydd ystyried ei werthoedd ei hun a'i agweddau personol at iechyd meddwl a myfyrio ar ei ymarfer ei hun. Gall gwaith myfyrio ein synnu ac efallai y gwnawn ddarganfod ein bod yn gwahaniaethu mewn rhyw ffordd neu ein bod yn ei chael hi'n anodd neu'n hawdd uniaethu â rhywun ag anawsterau iechyd meddwl, yn dibynnu ar ein profiadau ein hunain.
Felly, mae'r pyramid yn adnodd a all helpu'r ymarferydd i ganolbwyntio ar y cyd-destun y mae'n gweithio ynddo ar bob lefel - personol, diwylliannol a strwythurol.