1 Ymarfer corff ac iechyd meddwl
Gweithgaredd 1 Manteision seicolegol ymarfer corff
Edrychwch ar Ganllaw’r Sefydliad Iechyd Meddwl ar ‘Sut mae gofalu am eich iechyd meddwl gan ddefnyddio ymarfer corff’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Gwnewch restr o’r prif fanteision seicolegol a allai fod yn gysylltiedig â gwneud gweithgarwch corfforol a rhai o’r astudiaethau ymchwil sy’n ategu’r manteision hyn.
Gadael sylw
Y prif fanteision a nodir yn y canllaw yw:
- Mae ymarfer corff yn gysylltiedig â bod yn fwy meddyliol effro.
- Mae ymarfer corff yn gallu arwain at fwy o egni a hwyliau da.
- Mae ymarfer corff yn gallu arwain at fwy o hunan-dyb.
- Mae ymarfer corff yn gallu arwain at lai o straen a gorbryder.
- Mae ymarfer corff yn gallu atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu.
- Mae ymarfer corff yn gallu gwella ansawdd bywyd y rheini sy’n profi problemau iechyd meddwl.
Gweithgaredd 2 Tystiolaeth i gefnogi'r cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl
Yn y gweithgaredd blaenorol, gwnaethoch edrych ar rywfaint o’r dystiolaeth sy’n cysylltu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol â gwell iechyd meddwl. Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn edrych ar bwysigrwydd ymchwil o’r fath a’r mathau o dystiolaeth ymchwil sy’n bodoli.
Gwrandewch ar Drac 1, ‘Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: beth yw’r dystiolaeth?’ a gwnewch y tasgau isod. Yn y clip hwn byddwch yn clywed Dr Gaynor Parfitt a’r Athro Adrian Taylor yn trafod y dystiolaeth sy’n bodoli i gefnogi'r syniad bod cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl. Mae Dr Parfitt a'r Athro Adrian Taylor yn seicolegwyr ymarfer corff ym Mhrifysgol Caerwysg, gan arbenigo yn y maes ymchwil hwn.
Darparwyd y fersiwn sain Gymraeg gan artistiaid trosleisio. Mae’r ffeil sain wreiddiol ar gael yma.
Transcript: Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: beth yw’r dystiolaeth?
- Gwnewch restr o’r mathau o ymchwil maen nhw’n eu trafod (ee ymchwil epidemiolegol). Chwiliwch am ddiffiniadau ar gyfer y mathau hyn o ymchwil gan ddefnyddio’r rhyngrwyd.)
- Pam ei bod yn bwysig darparu tystiolaeth ymchwil o’r cysylltiad rhwng ymarfer corff ac iechyd meddwl?
- Beth sy’n cael ei ddweud am ansawdd peth o’r ymchwil sy’n bodoli?
Gadael sylw
- Dr Parfitt a’r Athro Taylor yn trafod y ddau brif fath o ymchwil:
- Ymchwil ymateb i ddosau. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mewn astudiaethau ymateb i ddos mae’r cyfranogwyr yn cael dos o rywbeth, ac ar ôl hynny mae eu hymateb yn cael ei fesur. Yn yr achos hwn, byddai’r cyfranogwyr yn cael ‘dos’ o weithgarwch corfforol a byddai’r effaith ar eu hiechyd meddwl (yr ymateb) yn cael ei mesur.
- Ymchwil epidemiolegol. Mae epidemioleg yn golygu astudio nifer yr achosion o iechyd a chlefydau a pha mor gyffredin ydyn nhw mewn poblogaeth a sut maent yn cael eu rheoli. Yng nghyd-destun y gweithgaredd hwn, byddai gan ymchwil epidemiolegol ddiddordeb mewn patrymau iechyd meddwl a gweithgarwch corfforol ar draws poblogaeth.
- Mae’r Athro Taylor yn awgrymu po fwyaf o dystiolaeth sydd i ddangos cysylltiad cadarnhaol rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl, y mwyaf tebygol yw y bydd gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu hannog i ddarparu ymarfer corff fel triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl. Ond, oni bai bod modd darparu tystiolaeth, ni fydd y llywodraeth yn buddsoddi mewn ymarfer corff fel triniaeth ar gyfer cyflyrau o’r fath.
- Mae’r Athro Taylor yn awgrymu er bod y mwyafrif o bobl yn credu bod ymarfer corff yn gwneud i chi deimlo’n well, nid yw ansawdd yr ymchwil sy’n edrych ar ymarfer corff ac iechyd meddwl bob amser cystal ag y gallai fod. Mae hyn yn aml oherwydd y gall fod yn anodd rheoli gweithgarwch corfforol.