3 Pam fod ymarfer corff yn gwella iechyd meddwl?
Hyd yma, rydym wedi gweld llawer iawn o dystiolaeth yn dangos bod ymarfer corff yn gallu cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl, ond pam? Pam fod cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn arwain at well iechyd meddwl? Yn y gweithgaredd nesaf, byddwn yn ceisio ateb y cwestiwn hwn.
Gweithgaredd 4 Pam fod ymarfer corff yn fuddiol i iechyd meddwl?
Gwnewch restr o’r rhesymau a allai egluro pam fod ymarfer corff yn gwella iechyd meddwl.
Nawr, gwrandewch ar Drac 2, ‘Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: pam mae’n gweithio?’. Yn y clip hwn, mae Dr Gaynor Parfitt a’r Athro Adrian Taylor yn trafod rhai o’r damcaniaethau arfaethedig ynghylch pam fod ymarfer corff yn gwella iechyd meddwl.
Darparwyd y fersiwn sain Gymraeg gan artistiaid trosleisio. Mae’r ffeil sain wreiddiol ar gael yma. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Transcript: Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: pam mae’n gweithio?
Sut mae eich esboniadau’n cymharu â’r rhai a amlinellwyd yn y darnau rydych wedi’u darllen neu wedi gwrando arnyn nhw? Efallai yr hoffech ddefnyddio’r adran sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau am yr esboniadau sydd fwyaf credadwy i chi, a rhoi sylwadau ar bostiadau eraill gan aelodau o’ch grŵp.
Gadael sylw
Nid oes un ddamcaniaeth na rhagdybiaeth wedi’i derbyn yn gyffredinol i esbonio’r cysylltiad rhwng ymarfer corff ac iechyd meddwl. Yn hytrach, mae sawl rhagdybiaeth wahanol wedi’u cynnig. Gellir rhannu’r rhain yn ddau gategori: (1) corfforol neu fioffisegol a (2) seicolegol neu seicogymdeithasol.
Mae tystiolaeth bod ymarfer corff yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl, ond yn ymarferol gall fod yn anodd nodi’r union resymau pam. Gallai hyn fod oherwydd bod cyfuniad o ffactorau yn arwain at well iechyd meddwl, yn hytrach nag un ffactor. Hefyd, oherwydd bod pawb yn wahanol, gall yr esboniadau dros well iechyd meddwl amrywio’n ôl y person dan sylw.