2 Rhieni fel partneriaid
Mae rhieni'n chwarae rôl hanfodol yn natblygiad eu plant ac, yng nghymdeithas heddiw, mae cynifer o ddulliau gwahanol o rianta ag sydd o fathau o deulu. Os ydych yn rhiant, efallai eich bod wedi meddwl yn ddwys ynghylch penderfyniadau a wnaethoch a'r effaith a gawsant ar eich plentyn. O fewn teuluoedd, gall eich dull o rianta fod yn wahanol i ddull eich partner, neu eich rhieni eich hun. Er mwyn i ymarferwyr fod yn fyfyriol, mae'n bwysig eu bod yn meddwl am eu dull eu hunain o rianta neu o ryngweithio gyda phlant.
Wrth ddarllen am gydberthynas gynnar Tomos a Mali yn 'Pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar', efallai y byddwch yn cofio bod gan Ceri, y nain, ffordd fwy ymlacedig o drin y plant. Fel sy'n gyffredin gyda neiniau a theidiau, roedd Ceri yn defnyddio dull gweithredu 'meddal', sef 'does dim rhaid i chi ei wneud os nad ydych yn dymuno', ond roedd Siân a Dafydd yn ceisio sefydlu dull gweithredu mwy disgybledig.
Mae seicolegwyr datblygiadol wedi cymryd diddordeb ers tro yn y ffordd y mae dulliau rhianta yn effeithio ar ddatblygiad plentyn. Mae'n anodd iawn dod o hyd i gysylltiadau achos ac effaith gwirioneddol rhwng camau gweithredu penodol rhieni ac ymddygiad plant yn ddiweddarach. Gall rhai plant a gaiff eu magu mewn amgylcheddau hynod wahanol dyfu i fyny a chael personoliaethau tebyg iawn. Neu, gall plant sy'n rhannu cartref ac sy'n cael eu magu yn yr un amgylchedd dyfu i fyny a chael personoliaethau gwahanol iawn. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae ymchwilwyr wedi datgelu cysylltiadau pendant rhwng dulliau rhianta a'r effeithiau a gaiff y dulliau hyn ar blant.
Ar ddechrau'r 1960au, cynhaliodd y seicolegydd Diana Baumrind astudiaeth ar fwy na 100 o blant cyn oedran ysgol. Nododd bedwar dimensiwn pwysig o rianta:
- strategaethau disgyblu
- cynhesrwydd a magwraeth
- dulliau cyfathrebu
- disgwyliadau o ran aeddfedrwydd a rheolaeth.
Yn seiliedig ar y dimensiynau hyn, awgrymodd Baumrind bod y rhan fwyaf o rieni'n defnyddio un o dri dull rhianta, fel y dangosir yn Nhabl 1.
Dull rhianta | Ymddygiad rhianta | Effaith bosibl ar y plentyn | Ymadroddion y gallai rhiant eu defnyddio |
---|---|---|---|
Awdurdodus | Disgyblaeth lem Disgwylir i'r plentyn ddilyn rheolau Dim cyfle i'r plentyn drafod |
Anfodlon Tawedog Drwgdybus Gwrthryfelgar (wrth iddo fynd yn hŷn) |
‘Na, elli di ddim …’ 'Am fy mod i'n dweud, dyna pam' 'Gwna fe – NAWR!' |
Goddefol | Rhoi rhai gorchmynion a chael rhai rheolau neu ffiniau Gallant gymryd amser i egluro eu penderfyniadau i'r plentyn Gadael i'r plentyn reoli ei ymddygiad ei hun Bod yn ffrind yn hytrach na rhiant i'r plentyn |
Gall yr effaith fod yn gadarnhaol ac yn negyddol Ansicr Awdurdodol a hunanganolog Diffyg cyfrifoldeb personol Sgiliau cymdeithasol gwell Credu ynddo'i hun |
‘Ti biau'r dewis. Os mai dyna wyt ti wir am ei wneud, wedyn …’ 'Y rheswm pam rwyf am i ti ... yw ...' ‘Wel, os nad wyt ti'n teimlo fel gwneud …’ |
Awdurdodol | Cymryd rheolaeth dros ymddygiad ei blentyn ond hefyd ei annog i fod yn unigolyn Gwrando ar yr hyn sydd gan y plentyn i'w ddweud Gosod safonau clir a chosbau di-gosb |
Lefelau uchel o hunan-barch Cyflawni'n well yn yr ysgol Annibynnol Bod yn gymdeithasol fedrus |
'Dyma fy marn i ... ond beth yw dy farn di?' 'Mae'n ddrwg gen i, ond gwnaethon ni gytuno ...' |
Activity _unit2.2.1 Gweithgaredd 4
Edrychwch eto ar dri dull rhianta Baumrind (Tabl 1) ac yna ystyriwch ddulliau rhianta Dafydd, Siân a Ceri, y nain. Pa ddull rhianta a ddefnyddiodd bob person?
Comment
Mae gan y nain, Ceri, ddull mwy goddefol o rianta, ond mae Dafydd a Siân yn daer yn hytrach nag yn awdurdodus. Nid yw'r un ohonynt yn ddisgyblwyr llym, nac yn oddefol – nid ydynt yn gadael i'w plant osod eu ffiniau eu hunain na rheoli eu hymddygiad eu hunain.
Ym mhedwar dimensiwn Baumrind o arddulliau rhianta, byddai'n well gan y rhan fwyaf o rieni heddiw fod yn daer nac yn awdurdodus. Wrth drafod damcaniaeth ymlyniad, gwelsoch pa mor bwysig yw cydberthynas plentyn â'i rieni yn ystod y blynyddoedd cynnar a sut y gall hyn effeithio ar ddatblygiad y plentyn yn y dyfodol.
Fel cynorthwyydd addysgu, neu weithiwr cymorth dysgu, mae angen i chi gydnabod pwysigrwydd rhieni fel partneriaid. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i Rhieni fel partneriaid [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (cwrs OpenLearn). Yma, byddwch yn gweld y gall partneriaeth fod ar sawl ffurf. Byddwch yn gweld nad yw'r gydberthynas rhwng rhieni ac ymarferwyr yn syml bob amser a bod rhai rhieni yn betrusgar neu y gall gweithwyr proffesiynol fod yn amddiffynnol pan gânt eu herio.
Activity _unit2.2.2 Gweithgaredd 5
Darllenwch Adran 1.2.3 o'r cwrs Rhieni fel partneriaid a cheisiwch gael gwybod pam bod cydweithio mor bwysig.
Comment
Mae cydweithredu â rhieni yn bwysig i hunaniaeth, hunan-barch a lles seicolegol plant. Mae hyn ynddo'i hun yn rheswm cymhellol ar gyfer partneriaeth agos.