Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Pam y gallai plant ymddwyn mewn ffyrdd penodol?

Fel cynorthwyydd addysgu, gall deall beth sy'n gwneud i blant ymddwyn yn y ffordd a wnânt eich helpu i gefnogi'r athro yn yr ystafell ddosbarth.

Mae Ffigur 1 yn awgrymu bod achosion sylfaenol ymddygiad yn aml yn gymhleth ac yn amlochrog. Efallai na fydd y plentyn ei hun yn gwybod pam ei fod yn ei chael hi'n anodd gwneud yr hyn y gofynnwyd iddo ei wneud, ac efallai na fydd yr oedolion yn ei fywyd yn gwybod chwaith. Mae gwrando ar blant a'u helpu i ddeall eu teimladau a siarad amdanynt, yn ogystal â cheisio gweld pethau o safbwynt y plentyn, yn sgiliau hanfodol y mae angen i lawer o oedolion eu dysgu neu eu hailddysgu.

Described image
Figure _unit4.1.1 Ffigur 1 Golwg ryngweithiol ar ymddygiad

Mae'r gweithgaredd nesaf yn disgrifio senario i'ch helpu i fyfyrio ar y rhesymau pam y gall plentyn fod yn ymddwyn mewn ffordd annymunol.

Activity _unit4.1.2 Gweithgaredd 2

Timing: Caniatewch tua 20 munud

Rhan 1

Darllenwch yr astudiaeth achos ganlynol am Kyle. Darllenwch hi unwaith yr holl ffordd drwodd er mwyn i chi ddod yn gyfarwydd â sefyllfa Kyle.

Astudiaeth achos: ymddygiad Kyle

Roedd Kyle yn gwybod na ddylai ddefnyddio ei ffôn symudol yn ystod gwersi. Er hyn, dyna ble'r oedd am 3.30yh, ar ddiwedd y diwrnod ysgol, yn cerdded i lawr y coridor i'r ystafell lle byddai'n cael ei gadw ar ôl yr ysgol unwaith eto. Nid ef oedd ar fai ei fod wedi cyrraedd yn hwyr i'r wers, ac roedd yn teimlo dicter yn cronni tuag at yr athro a wnaeth sylw deifiol ynghylch yr amser y sleifiodd Kyle i mewn i'r ystafell, gan geisio peidio tynnu sylw ato'i hun.

Byddai'n hoffi gweld sut y byddai'r athro hwnnw'n ymdopi ar ôl noson ddi-gwsg gyda'i chwaer fach yn sgrechian a'i fam yn ffraeo gyda'i chariad diweddaraf. Pan wawriodd y bore o'r diwedd, doedd dim arwydd o'i wisg ysgol yn nryswch y pentwr o ddillad glân ac, o edrych yn yr oergell wag, gwyddai Kyle na fyddai'n cael brecwast chwaith.

Pan gyrhaeddodd yr ysgol, roedd y gwaith ar gyfer y wers wedi cael ei rannu'n barod, a syllodd Kyle ar y daflen waith o'i flaen heb ei deall, gan ofyn iddo'i hun yn dawel pam ar y ddaear yr oedd angen iddo wybod beth yw 2n + 3y. Edrychodd ar yr athro, ac ystyriodd ofyn am help, ond roedd yr athro gyda rhywun arall ar y pryd.

Gan lithro i lawr yn ei sedd, tynnodd Kyle ei ffôn symudol allan o'i boced a dechreuodd anfon neges destun. Torrodd gwaedd yr athro ar ei draws a rhuthrodd draw at Kyle a mynnu ei fod yn rhoi ei ffôn i gadw a pharhau â'r gwaith. Rhoddodd Kyle ei ffôn yn ôl yn ei boced yn anfodlon, a throi ei sylw'n ôl at y daflen waith, heb ddeall dim mwy nag o'r blaen, a bellach roedd y disgwyliad y byddai'n gorfod aros ar ôl yr ysgol eto yn gysgod uwch ei ben.

(Oxley, 2015)

Rhan 2

Nawr, darllenwch yr astudiaeth achos am yr ail dro, a nodwch:

  • Eich syniadau ynghylch pam y gallai Kyle fod wedi bod yn anfon neges destun yn y dosbarth.
  • Beth oedd yr hyn a oedd yn ysgogi ymddygiad Kyle?

Sut y gellid bod wedi delio â'r sefyllfa yn wahanol?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Comment

Efallai eich bod yn teimlo y gellid cyfiawnhau ymddygiad Kyle ac nad oedd yn syndod bod Kyle wedi dechrau anfon neges destun. Efallai bod anfon neges destun o leiaf yn rhoi rhywbeth iddo ei wneud yn y wers? Efallai eich bod wedi ystyried ei fod yn anfon neges destun am fod y gweithgarwch mathemateg yn rhywbeth diystyr yn ei farn ef a'i fod yn dangos ei fod eisoes wedi rhoi'r gorau i ganolbwyntio ar y wers neu ar yr athro.

Gallai'r ffactorau ysgogi ar gyfer ymddygiad Kyle fod wedi deillio o'r diffyg ymgysylltu cadarnhaol gan yr athro, neu o ganlyniad i amgylchiadau cartref Kyle a'r ffaith ei fod wedi cyrraedd y dosbarth yn hwyr.

Efallai y gallai'r athro a Kyle fod wedi delio â phethau'n wahanol. Gallai'r athro neu'r cynorthwyydd addysgu fod wedi cael gair tawel gyda Kyle er mwyn gweld pam roedd yn hwyr, yn hytrach na bod yr athro wedi gwneud sylw coeglyd. Neu efallai eich bod wedi ystyried y dylai Kyle fod wedi bod yn fwy rhagweithiol wrth geisio help?