Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.7 Deunydd darllen ac adnoddau dewisol

Os oes gennych amser ac os hoffech archwilio'r pwnc hwn ymhellach, edrychwch ar yr adnoddau isod.

Nid yw systemau gwobrwyo yn gweithio!

Mae'r erthyglau canlynol o'r farn nad yw systemau gwobrwyo yn gweithio. Wrth i chi eu darllen, meddyliwch am ba mor argyhoeddiadol y mae eu dadleuon yn swnio, a myfyriwch ar eich safbwyntiau eich hun ar systemau gwobrwyo.

Mann, S. (2013) ‘Why “100% attendance awards” at school don’t work’, Huffington Post, 10 Mehefin [ar-lein]. Ar gael yn http://www.huffingtonpost.co.uk/ sandi-mann/ why-100-attendance-awards_b_3414693.html [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (cyrchwyd 17 Rhagfyr 2015).

Paton, G. (2009) ‘Classroom rewards “do not work”’, The Telegraph, 13 Tachwedd 2009. Ar gael yn http://www.telegraph.co.uk/ education/ 6563040/ Classroom-rewards-do-not-work-work.html (cyrchwyd 17 Rhagfyr 2015).

Dull un ysgol o reoli ymddygiad disgyblion

Os ydych am archwilio sut mae un ysgol benodol yn rheoli ymddygiad disgyblion, edrychwch ar y wybodaeth ar eu gwefan.

Fideos TES ar reoli ymddygiad

Gellir gweld y gyfres gyfan o fideos ar reoli ymddygiad gan Tom Bennett ar wefan TES. Er eu bod wedi'u hanelu at athrawon, gall yr awgrymiadau a roddwyd gan Tom Bennett eich helpu i ddeall y dulliau y gall athro eu defnyddio a'ch galluogi i roi cymorth effeithiol wrth reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth.