Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Beth sy'n ysgogi salwch meddwl?

Gall salwch meddwl ddigwydd am bob math o resymau. Weithiau, gall digwyddiad trawmatig neu un sy'n llawn straen – marwolaeth aelod agos o'r teulu, er enghraifft – ysgogi salwch meddwl. Fodd bynnag, yn aml, bydd iechyd meddwl gwael yn deillio o gyfuniad o ffactorau, neu bydd iechyd meddwl yn dirywio dros gyfnod o amser, efallai oherwydd bwlio hirfaith.

Activity _unit4.3.1 Gweithgaredd 9

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Nodwch y digwyddiadau neu'r sefyllfaoedd a allai ysgogi problemau iechyd meddwl neu les emosiynol ymysg plant. Rydym wedi dechrau yn y blwch isod.

Pan fyddwch wedi gorffen eich rhestr, darllenwch ein sylwadau.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Elusen yn y DU yw Young Minds sydd wedi ymrwymo i wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Canfu Young Minds (2014) mai'r materion oedd yn peri'r mwyaf o bryder i blant o oedran ysgol oedd:

  • ofn methu
  • bwlio
  • delwedd o'r corff
  • yr amgylchedd ar-lein
  • pwysau rhywiol
  • siawns o gael cyflogaeth.

Fodd bynnag, nid oes achos nac ysgogiad clir bob amser dros faterion; ac mae'n bwysig cofio bod plant yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol i heriau yn eu bywydau, fel anawsterau gyda chydberthynas deuluol, pwysau arholiad, neu gyfnodau pontio.

Ni fyddai'r hyn sy'n digwydd yn eu bywydau yn cael effaith amlwg ar rai plant, ond gallai eraill ddangos symptomau neu ymddygiadau sy'n peri pryder i rieni ac oedolion eraill y dônt ar eu traws. Gall y symptomau neu'r ymddygiadau hyn fod yn rhai byrdymor ac yn ddim i boeni yn eu cylch neu gallant fod yn arwydd o broblem iechyd meddwl.