Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Ymarfer cynhwysol

Yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, rhaid i wasanaethau plant, fel ysgolion, ystyried y canlynol:

  • safbwyntiau, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu berson ifanc, a rhieni’r plentyn
  • pa mor bwysig ydyw bod y plentyn neu berson ifanc, a rhieni'r plentyn, yn cymryd cymaint o ran â phosibl mewn penderfyniadau, a'u bod yn cael y wybodaeth a'r cymorth sy'n angenrheidiol i'w galluogi i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny
  • yr angen i helpu'r plentyn neu'r person ifanc, a rhieni'r plentyn, er mwyn hwyluso datblygiad y person neu berson ifanc a'i helpu i gyflawni'r deilliannau addysgol a'r canlyniadau eraill gorau posibl, gan ei baratoi'n effeithiol ar gyfer bod yn oedolyn.

Gall fod yn heriol rhoi'r egwyddorion hyn ar waith ar gyfer pob plentyn (a'i rieni). Fodd bynnag, mae a wnelo cynhwysiant mewn perthynas ag addysg â chynyddu cyfranogiad ar gyfer pob plentyn ac oedolyn, ac â helpu ysgolion i fod yn ymatebol i amrywiaeth (Booth ac Ainscow, 2011).

Mae'r Index for Inclusion (Booth ac Ainscow, 2011) yn adnodd ymarferol ar gyfer hunanwerthusiad a gwelliant, gan ganolbwyntio ar bob agwedd ar gynhwysiant. Mae wedi'i anelu at helpu'r sawl sy'n gweithio mewn amrywiaeth o wasanaethau plant i ddod o hyd i'w 'camau nesaf' eu hunain er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd mwy o ran yn chwarae a dysgu'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw.

Activity _unit5.1.2 Gweithgaredd 3

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Rhan 1

Nawr, hoffem i chi ystyried pa mor gynhwysol yw eich ymarfer. Mae'r dolenni isod yn arwain at holiaduron er mwyn eich helpu i wneud hyn. Gallwch ddewis gwneud y gweithgaredd hwn naill ai o safbwynt eich ymarfer eich hun (Opsiwn 1) neu o safbwynt ymarfer eich ysgol (Opsiwn 2).

Rhan 2

Ar ôl cwblhau'r holiadur, myfyriwch ar eich atebion.

  • Pa mor gynhwysol yw eich ymarfer neu leoliad yn eich barn chi?
  • A ellid gwella unrhyw agweddau ar eich ymarfer neu leoliad? Os felly, beth y gellid ei wneud yn lle hynny, a sut y gallech fynd ati i weithredu'r newid hwn?
  • Â phwy y byddai angen i chi siarad?
  • A oes angen rhagor o wybodaeth arnoch er mwyn gwneud y newid?

Gadael sylw

Os gwnaethoch ateb 'weithiau' neu 'na' i unrhyw un o'r datganiadau yn yr holiadur, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi drafod eich ymatebion â'r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (Cydlynydd AAA) yn eich lleoliad ac ystyried sut y gellid sicrhau bod eich ymarfer chi neu eich ysgol yn fwy cynhwysol.