Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Straeon cymdeithasol

Defnyddir straeon cymdeithasol i helpu plant ar y sbectrwm awtistig i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth briodol er mwyn ymdopi â sefyllfaoedd cymdeithasol bob dydd fel amser egwyl neu gymryd tro. Maent yn galluogi'r plentyn i ymarfer gweithgareddau, deall awgrymiadau cymdeithasol a meithrin ymwybyddiaeth o'r rheolau cymdeithasol sy'n bodoli mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Stori fer, ddisgrifiadol, yw stori gymdeithasol, gan ddefnyddio iaith syml a lluniau yn aml iawn. Ei nod yw rhoi gwybodaeth gywir mewn perthynas â sefyllfaoedd cymdeithasol.

Mae 'Awgrymiadau o straeon cymdeithasol a sampl' yn rhoi mwy o wybodaeth, a all eich ysbrydoli i roi cynnig ar greu stori i'w rhannu gyda'r plant rydych yn gweithio gyda nhw.

Box _unit5.3.1

AWGRYMIADAU O STRAEON CYMDEITHASOL A SAMPL

Isod ceir enghraifft o stori gymdeithasol yn egluro pryd mae'n briodol i redeg.

Rhedeg

Rwy'n hoffi rhedeg.Mae'n hwyl mynd yn gyflym.

Mae'n iawn i redeg pan rwy'n chwarae y tu allan.

Gallaf redeg pan rwyf ar yr iard.

Weithiau, rwy'n teimlo fel rhedeg, ond mae'n beryglus rhedeg pan fyddaf dan do.

Gallai rhedeg dan do fy anafu i neu bobl eraill.

Pan fydd pobl dan do, maent yn cerdded.

Mae cerdded dan do yn ddiogel.

Byddaf yn ceisio cerdded dan do a byddaf ond yn rhedeg pan fyddaf y tu allan ar yr iard.

Mae fy athrawon a'm rhieni yn hapus pan fyddaf yn cofio cerdded dan do.

Ysgrifennu Stori Gymdeithasol

Dylech ddechrau drwy arsylwi ar y plentyn yn y sefyllfa rydych yn mynd i'r afael â hi. Ceisiwch gymryd safbwynt y plentyn a chynnwys agweddau ar ei deimladau neu ei safbwyntiau yn y stori. Hefyd, dylech gynnwys achosion arferol yn y sefyllfa gymdeithasol a safbwynt eraill ynghyd ag ystyried amrywiadau posibl.

Defnyddir tri math o frawddegau wrth ysgrifennu straeon cymdeithasol:

  1. Brawddegau disgrifiadol: diffinio digwyddiadau a ragwelir mewn modd gwrthrychol pan fydd sefyllfa'n codi, pwy sy'n rhan o'r sefyllfa, beth maent yn ei wneud a pham. (e.e. Pan fydd pobl dan do, maent yn cerdded.)
  2. Brawddegau persbectif: disgrifio statws mewnol y person neu'r personau dan sylw, eu meddyliau, teimladau neu hwyliau. (e.e. Gallai rhedeg dan do fy anafu i neu bobl eraill.)
  3. Brawddegau cyfeiriol: datganiadau unigol o ymatebion dymunol a nodir mewn modd cadarnhaol. Gallant ddechrau gyda 'Gallaf geisio...' neu 'Byddaf yn gweithio ar...' Ceisiwch osgoi brawddegau sy'n dechrau gyda 'Peidiwch' neu ddatganiadau diffiniol. (e.e. byddaf yn ceisio cerdded dan do.)

Dylai stori gymdeithasol gynnwys 3 i 5 o frawddegau disgrifiadol a brawddegau persbectif am bob brawddeg gyfeiriol. Dylech osgoi defnyddio gormod o frawddegau disgrifiadol. Cânt eu colli heb gyd-destun digonol. Ysgrifennwch yn y person cyntaf ac ar lefel sgiliau datblygiadol y plentyn. Dylech hefyd gofio defnyddio lluniau sy'n cyd-fynd â lefel sgiliau datblygiadol y plentyn er mwyn ategu'r testun.

Cyfeiriad:

Broek, E., Cain, S.L., Dutkiewicz, M., Fleck, L., Grey, B., Grey, C., et al. (1994). The Original Social Story Book. Arlington, TX: Future Education. www.thegraycenter.org

(Ffynhonnell: Technical Assistance Center on Social Emotional Intervention for Young Children, 2012)