Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Pwysigrwydd myfyrio

Efallai eich bod wedi nodi bod dau o'r deilliannau dysgu yn cyfeirio at 'fyfyrio'. Er mwyn gwneud y gorau o'ch astudiaethau, mae angen i chi fyfyrio ar eich dysgu a chynllunio eich datblygiad er mwyn cyflawni eich nodau gyrfa, personol neu astudio.

Gan gyfeirio'n ôl at y clip fideo, gwelsoch sut mae Katie wedi myfyrio ar ei rôl fel cynorthwyydd addysgu. Llwyddodd i nodi gwobrwyon a heriau'r swydd ac mae'n amlwg ei bod wedi treulio amser yn meddwl am ei datblygiad gyrfa. Mae Katie am weithio gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, felly roedd Adran 4 o'r cwrs o ddiddordeb arbennig, ond cyfeiriodd hefyd at agweddau eraill ar y cwrs sy'n berthnasol i'w hymarfer.

Activity _unit6.3.1 Gweithgaredd 2

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Dychmygwch mai chi yw Katie a'ch bod yn cael eich holi am eich rôl fel cynorthwyydd addysgu. Nid oes angen i chi fod yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu – efallai bod gennych brofiad o weithio gyda phlant mewn ffyrdd eraill, efallai fel rhiant neu nain neu daid. Myfyriwch ar agweddau gwahanol eich rôl. Os mai dim ond rhai adrannau o'r cwrs rydych wedi'u hastudio, dylech allu defnyddio'r wybodaeth hon i fyfyrio ar y cwestiynau hyn.

  • A ydych yn chwarae rhan yn y gwaith o ddatblygu a rheoli cydberthnasau?
  • A ydych yn gweithio'n agos gyda phlant unigol ac a oes gan unrhyw un ohonynt anghenion addysgol arbennig?
  • Sut ydych chi'n annog darllen a llythrennedd yn eich lleoliad?
  • Pa agweddau ar y cwrs oedd yn ddefnyddiol ar gyfer eich ymarfer eich hun?
  • Pa agweddau ar eich ymarfer nad ymdriniwyd â nhw ar y cwrs hwn?

Gwnewch nodiadau mewn ymateb i'r cwestiynau hyn a chrynhowch beth rydych yn ei gofio o'r adrannau a ddarllenwyd gennych. Defnyddiwch eich nodiadau i geisio nodi meysydd o'ch ymarfer neu brofiad yr hoffech eu datblygu ymhellach.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).