Beth yw bathodyn?
Mae bathodynnau yn ddull o gydadnabod cyflawniadau a sgiliau penodol a gaiff eu meithrin drwy gyrsiau ar-lein. Mae bathodynnau yn arddangos eich gwaith a'ch cyflawniad ar gwrs.
Tra nad oes gan y bathodynnau hyn unrhyw gredyd ffurfiol ac ni chânt eu hasesu mor drylwyr ag asesiad ffurfiol, gallwch rannu eich cyflawniad gyda'ch ffrindiau, teulu a chyflogwyr, ac ar y cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a LinkedIn. Efallai yr hoffech gynnwys eich bathodynnau neu ddatganiad cyfranogi ar eich CV fel tystiolaeth o ddysgu hunangyfeiriedig.
Mae bathodynnau yn gymhelliant gwych, gan eich helpu i gyrraedd diwedd y cwrs. Mae ennill bathodyn yn aml yn rhoi hwb i hyder yn y sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau llwyddiannus. Felly, gall cwblhau'r cwrs hwn eich annog i feddwl am astudio cyrsiau eraill.
Mae un bathodyn y gallwch chi ei gasglu trwy'r cwrs hwn: