Beth yw datganiad cyfranogi?
Os byddwch yn casglu'r bathodyn yn llwyddiannus, gallwch gael a lawrlwytho datganiad cyfranogi. Mae hwn yn dangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, eich diddordeb yn y pwnc a'ch ymrwymiad i'ch gyrfa. Mae hefyd yn dystiolaeth o'ch datblygiad proffesiynol parhaus. Nid oes gan y datganiad cyfranogi hwn unrhyw gredyd ffurfiol tuag at gymhwyster oherwydd ni chaiff ei asesu mor drwyadl.
Caiff neges e-bost ei hanfon atoch i'ch hysbysu eich bod wedi cael datganiad cyfranogi. Unwaith y bydd y datganiad ar gael (fel ffeil PDF), byddwch yn gallu ei weld a'i lawrlwytho o'ch proffil OpenLearn Create.
Gall gymryd hyd at 24 awr i roi'r datganiad cyfranogi ar ôl i chi gwblhau'r cwrs.
Os ydych yn cael unrhyw broblemau yn gweld eich datganiad cyfranogi, cysylltwch â openlearn@open.ac.uk [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .