Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dechrau gyda seicoleg
Dechrau gyda seicoleg

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Stori'r cleifion ag ymennydd wedi'i rannu

Mae llawdriniaeth sy'n torri drwy'r corpus callosum wedi darparu tystiolaeth i ategu gwahanol arbenigeddau hemisffer chwith a hemisffer dde yr ymennydd. Anaml iawn y defnyddir y llawdriniaeth hon a dim ond fel dewis olaf pan fydd unigolyn yn cael trawiadau epileptig rheolaidd a difrifol nad ydynt yn ymateb i driniaeth â chyffuriau. Mae amlder a difrifoldeb eu trawiadau epileptig yn anablol iawn ac mae ansawdd eu bywyd yn wael. Gall yr ymosodiadau hyd yn oed fygwth eu bywyd. Yn y cleifion hyn, byddai'r gweithgarwch epileptig yn dechrau mewn un ardal o'r ymennydd ac wedyn yn lledaenu ar draws y corpus callosum i holl ardaloedd yr ymennydd. Drwy dorri'r cysylltiadau hyn rhwng y ddau hemisffer, caiff y gweithgarwch epileptig ei gynnwys o fewn un hemisffer. Fel arfer, bydd y llawdriniaeth yn arwain at ostyngiad sylweddol o ran amlder a difrifoldeb y trawiadau heb dorri ar draws gweithrediad arferol yr ymennydd mewn unrhyw ffordd amlwg.

Roedd ymchwilwyr cynnar wedi'u synnu nad oedd pobl a gafodd y llawdriniaeth hon yn dangos unrhyw newidiadau amlwg o ran eu hymddygiad, eu personoliaeth na'u sgoriau mewn profion deallusrwydd er gwaethaf llawdriniaeth mor sylweddol. Yn wir, roeddent yn meddwl tybed beth oedd diben y corpus callosum os gellid torri drwyddo â chyn lleied o effaith. Fodd bynnag, datgelodd profion gofalus gan Roger Sperry (1968) a'i gydweithwyr ymddygiad a oedd ymhell o fod yn normal. Enillodd y gwaith hwn Wobr Nobel am Feddyginiaeth iddo yn 1981.

Dyfeisiodd Sperry et al nifer o arbrofion rhannu'r ymennydd gan ddefnyddio pobl a oedd wedi cael llawdriniaeth rhannu'r ymennydd fel cyfranogwyr a chan gymharu eu hymatebion ag ymatebion pobl nad oeddent wedi cael y llawdriniaeth hon. Mewn un arbrawf, rhoddwyd mwgwd llygaid am y cyfranogwr a'i ymennydd wedi'i rannu a rhoddwyd gwrthrychau iddo eu teimlo gyda'i law chwith. Mae gwybodaeth o'r llaw chwith yn mynd i'r hemisffer dde ond yn gyffredinol, caiff y lleferydd ei reoli gan yr hemisffer chwith.

Ni allai'r cyfranogwyr ddweud enw'r gwrthrych roeddent yn ei ddal yn eu llaw chwith wrth yr arbrofwr er eu bod yn amlwg yn gallu adnabod y gwrthrych gan y byddent yn gwneud ystumiau priodol gydag ef. Er enghraifft, os mai allwedd oedd y gwrthrych, byddent yn ei dal allan fel petaent yn ei rhoi mewn clo ac yn ei throi. Oherwydd nad yw'r hemisffer dde yn siarad ac na allai drosglwyddo gwybodaeth i'r hemisffer chwith, ni ellir enwi'r gwrthrych. Fodd bynnag, cyn gynted ag y byddai'r cyfranogwr yn cyffwrdd â'r gwrthrych â'i law dde, gallai ei enwi ar unwaith.

Mewn arbrawf arall, byddai'r cyfranogwr yn eistedd wrth fwrdd gyda sgrîn o'i flaen. Byddai'r arbrofwr yn gofyn iddo osod ei ddwylo o amgylch ochrau'r sgrîn fel nad oedd eu dwylo o fewn golwg. Wedyn, byddai'n gofyn iddo gadw ei lygaid ar smotyn yng nghanol y sgrîn.

Ffigur 3 Astudiaeth o rannu'r ymennydd

Wedyn caiff gair ei fflachio ar un ochr o'r sgrîn yn gyflym iawn (tua un rhan o ddeg o eiliad). Rhaid fflachio'r gair yn gyflym iawn er mwyn sicrhau nad oes digon o amser i'r cyfranogwr symud ei lygaid fel mai dim ond i un o hemisfferau'r ymennydd yr aiff y wybodaeth.

Pan gaiff gair ei fflachio ar ochr llaw chwith y sgrîn, aiff y wybodaeth i hemisffer dde yr ymennydd. Ni ellir trosglwyddo'r wybodaeth i'r hemisffer chwith siaradus felly ni all y cyfranogwr ddweud wrth yr arbrofwr beth oedd y gair.

Fodd bynnag, gall y cyfranogwr ddefnyddio ei law chwith i deimlo pentwr o wrthrychau y tu ôl i'r sgrîn a dewis yn hawdd y gwrthrych sy'n cyfateb i'r gair a fflachiwyd. Ni fydd yn gallu dweud wrth yr arbrofwr beth y mae'r llaw chwith yn ei wneud gan mai dim ond i'r hemisffer dde mud y mae gwybodaeth o'r llaw chwith yn mynd. Hefyd, ni fydd yn gallu dod o hyd i'r gwrthrych cywir gyda'i law dde gan mai'r hemisffer chwith sy'n rheoli'r llaw dde ac na welodd yr hemisffer chwith y gair a fflachiwyd.

Gweithgaredd 2: Gwahanu'r dde o'r chwith

Timing: 0 awr 10 o funudau

Gall darllen am arbrofion rhannu'r ymennydd fod braidd yn ddryslyd wrth i chi geisio gwahanu'r law dde a'r llaw chwith, yr hemisffer dde a'r hemisffer chwith ac ochrau'r sgrîn. Dylai cymryd amser i wneud y gweithgaredd hwn helpu i wneud pethau'n gliriach.

1. Os caiff gair ei fflachio ar ochr dde'r sgrîn, a fydd person y rhannwyd ei ymennydd yn gallu:

ByddNa fydd
(a) enwi'r gair
(b) dewis y gwrthrych cyfatebol o'r tu ôl i'r sgrîn gyda'i law dde
(c) dewis y gwrthrych cyfatebol o'r tu ôl i'r sgrîn gyda'i law chwith

Gadael sylw

Peidiwch â phoeni os oedd y gweithgaredd hwn yn anodd i chi. Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd dilyn llwybr o air ar ochr dde'r sgrîn i hemisffer chwith yr ymennydd ac wedyn i'r llaw dde.

Yng nghwestiwn 1, fflachiwyd y gair ar ochr dde'r sgrîn er mwyn i'r wybodaeth fynd i hemisffer chwith yr ymennydd. Gan mai'r hemisffer chwith sydd fel arfer yn rheoli'r lleferydd, dylai'r person allu enwi'r gair. Gan mai'r hemisffer chwith sydd hefyd yn rheoli ochr dde'r corff, bydd y person yn gallu dewis gwrthrych cudd gyda'i law dde ond nid gyda'i law chwith.

Felly mae'r atebion i gwestiwn 1 fel a ganlyn

  • (a) bydd

  • (b) bydd

  • (c) na fydd

2. Os caiff gair ei fflachio ar ochr chwith y sgrîn, a fydd person y rhannwyd ei ymennydd yn gallu:

ByddNa fydd
(a) enwi'r gair
(b) dewis y gwrthrych cyfatebol o'r tu ôl i'r sgrîn gyda'i law dde
(c) dewis y gwrthrych cyfatebol o'r tu ôl i'r sgrîn gyda'i law chwith

Ateb

Caiff y gair ei fflachio i ochr chwith y sgrîn felly aiff y wybodaeth i'r hemisffer dde. Ni fydd y person yn gallu enwi'r gair ac ni fydd yn gallu dewis gwrthrych cudd cyfatebol gyda'i law dde. Y rheswm am hyn yw nad yw'r hemisffer dde yn rheoli'r lleferydd nac ochr dde'r corff. Mae'r hemisffer dde yn rheoli ochr chwith y corff felly bydd y llaw chwith yn gallu dewis gwrthrych cyfatebol.

Felly mae'r atebion i gwestiwn 2 yn wahanol i'r atebion i gwestiwn 1:

  • (a) na fydd

  • (b) na fydd

  • (c) bydd

Mewn arbrofion rhannu'r ymennydd, bydd y technegau a ddefnyddir yn cyfyngu'r wybodaeth i un hemisffer yn unig a bydd y person yn ymddwyn fel petai ganddo ddau ymennydd ar wahân gyda'r ddau hemisffer fel petaent yn gweithredu heb unrhyw ymwybyddiaeth amlwg o'r hyn sy'n digwydd yn yr hemisffer arall.

Wrth gwrs, mewn gweithgareddau beunyddiol, gall pobl y rhannwyd eu hymennydd weithredu mewn ffordd arferol oherwydd gallant symud eu llygaid a gwneud yn siŵr bod gwybodaeth sy'n cael ei chyfleu iddynt ar gael i'r ddau hemisffer. O bryd i'w gilydd, byddant yn ymddwyn yn rhyfedd, yn enwedig yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl y llawdriniaeth. Gall claf gael ei hun yn botymu crys gydag un llaw ac yn ei ddadfotymu â'r law arall neu fod ei law chwith yn sydyn yn cau llyfr y mae wrthi'n ei ddarllen.