Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dechrau gyda seicoleg
Dechrau gyda seicoleg

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.3 Grwpiau a chydymffurfiaeth

Yn y 1950au, cynhaliodd Solomon Asch yr hyn a ystyrir bellach yn arbrofion clasurol ar y ffordd y gellir rhoi pwysau ar unigolion i gydymffurfio â safon grŵp. Dangosodd canlyniadau ei arbrofion ddylanwad dramatig pwysau gan grwpiau.

Gweithgaredd 11: Cydymffurfiaeth a phwysau gan grwpiau

Timing: 0 awr 10 o funudau

Mae'r darn canlynol yn disgrifio un o arbrofion Asch. Wrth i chi ddarllen, ceisiwch ddychmygu eich bod yn gyfranogwr eich hun yn yr arbrawf a dyfalwch sut y byddech o bosibl wedi ymateb.

Rydych yn eistedd o amgylch bwrdd gyda chwe pherson arall yn cymryd rhan mewn arbrawf ar sut rydym yn amgyffred pethau. Dangosir llun o linell syth i'ch grŵp. Wedyn rhoddir llun o dair llinell arall i chi o wahanol hydoedd. Gofynnir i chi nodi pa linell sydd yr un hyd â'r llinell wreiddiol, fel y dangosir isod.

Ffigur 12: Llinellau o wahanol hydoedd

A yw'r llinell hon yr un hyd â llinell 1, 2 neu 3?

Mae pob person o amgylch y bwrdd yn nodi ei ddewis ar goedd - chi yw'r olaf ond un i siarad. Mae'r pum person cyntaf yn dewis llinell 2. A ydych yn cytuno â hwy?

A allwch feddwl am un achlysur go iawn lle y buoch yn destun rhyw fath o bwysau gan grŵp? Efallai eich bod mewn tafarn a bod eich ffrindiau wedi rhoi pwysau arnoch i gael diod arall ac aros yn hirach, pan oeddech chi mewn gwirionedd eisiau gadael. Beth ddigwyddodd a beth a wnaethoch? Beth, os unrhyw beth, fyddai wedi eich darbwyllo i gytuno â'r grŵp? Ysgrifennwch nodiadau byr yn disgrifio eich profiad.

Gadael sylw

Yn arbrawf Asch, gwnaed yr ymarfer hwn sawl gwaith gyda llinellau o wahanol hydoedd. Yr hyn na fyddwch wedi sylweddoli yw bod y bobl yn y grŵp arbrofol, ac eithrio un cyfranogwr, yn rhan o dîm yr arbrofwr a'u bod, o bryd i'w gilydd, wedi rhoi'r un atebion ffug yn fwriadol! Yr hyn a oedd yn cael ei brofi oedd p'un a oedd yr un cyfranogwr dilys yn teimlo pwysau gan y grŵp i gydymffurfio â safbwyntiau'r gweddill. Felly, a wnaethoch chi?

Wrth gwrs, mae'n amhosibl dweud gyda'r ymarfer papur hwn p'un a fyddech wedi ildio i ddylanwad y pwysau gan y grŵp mewn gwirionedd ai peidio. Efallai y byddech wedi cydymffurfio'n gyhoeddus ond wedi anghytuno'n breifat. (Mae hyn yn rhywbeth a ddigwyddodd yn gymharol aml yn arbrawf Asch hefyd).

Mae rhai sefyllfaoedd a grwpiau rywffordd yn rhoi mwy o bwysau nag eraill; ac ar rai adegau fwy nag adegau eraill. Os ydych wedi profi'r sefyllfa yn y dafarn, er enghraifft, fwy na thebyg ei bod wedi bod yn haws ymwrthod â'r pwysau ar rai adegau ac yn anos ar adegau eraill. Felly mae'n allweddol ystyried pa elfennau sy'n gwneud i chi fod eisiau cydymffurfio, er enghraifft, efallai eich bod eisiau/angen cael eich derbyn gan y grŵp hwnnw a'ch bod am iddo eich cymeradwyo.

Allan o 50 o gyfranogwyr yn astudiaeth wreiddiol Asch, cydymffurfiodd 75 y cant ag ateb a oedd yn amlwg yn anghywir a roddwyd gan weddill y grŵp o leiaf unwaith. Fodd bynnag, ni chydymffurfiodd unrhyw un o'r cyfranogwyr bob tro y rhoddodd y grŵp atebion anghywir.

Aeth Asch ymlaen i ymchwilio i'r ffordd y byddai amrywiadau yn y sefyllfa arbrofol yn effeithio ar amlder cydymffurfio a'r parodrwydd i ymwrthod â chydymffurfio. Cynyddodd anhawster y dasg fel bod hydoedd y llinellau yn debyg a chafodd fod lefelau cydymffurfio yn cynyddu. Drwy gyflwyno elfen o anghytuno ymhlith aelodau'r grŵp sefydlog, anogwyd y cyfranogwr dilys i beidio â chydymffurfio. Hefyd, drwy ganiatáu i'r cyfranogwr ysgrifennu ei ateb yn hytrach na'i ddweud ar goedd, cafwyd lefelau cydymffurfio llawer is. Mae hyn yn ategu'r awgrym bod llawer o gyfranogwyr yn yr arbrofion gwreiddiol yn cytuno'n gyhoeddus gyda'r mwyafrif er eu bod yn anghytuno'n breifat.

Fodd bynnag, roedd canlyniadau Asch o'r arbrawf gwreiddiol yn syfrdanol o hyd gan fod yr ateb cywir bob amser yn amlwg iawn. Mae rhai seicolegwyr wedi awgrymu bod cyswllt rhwng y canlyniadau a gafodd Asch a'r lleoliad hanesyddol a diwylliannol, sef UDA ar ddechrau'r 1950au, gan nad yw astudiaethau diweddarach neu astudiaethau a gynhaliwyd mewn gwahanol wledydd bob amser wedi ailadrodd canfyddiadau Asch. Yn y 1950au, roedd America yn geidwadol iawn. Hefyd, myfyrwyr coleg oedd y cyfranogwyr a ddefnyddiwyd gan Asch yn ei astudiaeth ac roedd colegau ar y pryd yn llawer mwy hierarchaidd nag y daethant yn ddiweddarach. Gallai'r cefndir diwylliannol hwn fod wedi annog lefel cydymffurfio uchel.

Adolygodd Rod Bond a Peter Smith (1996) nifer o astudiaethau a gynhaliwyd mewn gwahanol ddiwylliannau gan ddefnyddio tasg barnu llinell Asch. Cafwyd ganddynt fod lefelau cydymffurfio yn llawer uwch mewn diwylliannau cyfunolaidd, megis Tsieina, na diwylliannau unigolaidd, megis UDA. Mae diwylliannau cyfunolaidd yn dueddol o bwysleisio anghenion y grŵp yn hytrach nag anghenion yr unigolyn ond mewn diwylliannau unigolaidd, anghenion yr unigolyn sy'n cael blaenoriaeth. Gan fod diwylliannau cyfunolaidd hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cydymffurfio â normau'r grŵp a chefnogi penderfyniadau'r grŵp, yna nid yw'n syndod y bydd lefelau cydymffurfio yn uwch.

Weithiau cyflwynir cydymffurfiaeth mewn ffordd negyddol yn enwedig pan fyddwn yn gweld cyfranogwyr yn cael eu dylanwadu mewn arbrawf i roi atebion sy'n amlwg yn anghywir o ganlyniad i bwysau gan grŵp. Fodd bynnag, mae'n werth ystyried bod angen cydymffurfio i ryw raddau er mwyn i unrhyw gymdeithas weithredu er budd mwyafrif helaeth yr aelodau. Byddai'n anodd i gynulleidfa mewn theatr fwynhau drama pe byddai un person yn gyson yn torri ar draws yr actorion ac yn gwneud sylwadau uchel am y stori. Byddai hefyd yn teimlo'n anghyfforddus iawn pe bai'r person o'ch blaen ar escaladur yn penderfynu troi tuag atoch a syllu arnoch wrth i chi deithio i'r llawr nesaf.

Yn yr adran hon, rydych wedi ystyried peth o'r gwaith a wnaed gan seicolegwyr cymdeithasol ar hunaniaethau grŵp. Rydych wedi gweld sut y gall pobl fabwysiadu hunaniaethau penodol grŵp a all roi ymdeimlad o berthyn a hunanbarch iddynt neu arwain at stereoteipio grwpiau amhoblogaidd mewn ffordd negyddol ac o bosibl wahaniaethu yn eu herbyn. Er y gall pwysau i gydymffurfio â grwpiau wneud i unigolion ymddwyn mewn ffyrdd na fyddent yn gwneud fel arall, gall unigolion ymwrthod â phwysau o'r fath. Gall y grŵp ddylanwadu ar yr unigolyn a gweithredu fel ffynhonnell sy'n grymuso'r unigolyn. Mae dylanwad grwpiau yn dueddol o fod fwyaf pwerus pan fydd wedi'i ategu gan y diwylliant ehangach.