Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dechrau gyda seicoleg
Dechrau gyda seicoleg

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.5 Ymddangosiad corfforol

Mae ein cymdeithas yn rhoi cryn werth ar nodweddion corfforol. Mae corff siapus, coesau hir a gwallt hyfryd yn nodweddion yr ystyrir yn aml eu bod yn ddymunol mewn merched. I ddynion, gallai gynnwys nodweddion megis cyhyrau, taldra a gên gadarn. I'r ddau ryw, ceir ieuengrwydd, dannedd gwyn syth a chymesuredd y wyneb. Ceir cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau yn amlwg o blaid y modelau atyniad hyn, ac yn achos y diwydiant hysbysebu, yn amlwg yn hyrwyddo'r modelau hyn. Mae ffilmiau, cylchgronau a'r teledu oll yn cyfrannu at yr hyn y gellid cyfeirio ato fel gormes delweddau siâp y corff. Mae diwydiant cyfan sy'n anelu at ddylanwadu ar ddewisiadau defnyddwyr, ac felly werthu cynhyrchion, drwy aflunio realiti normal i afrealiti delfrydau megis y ddelfryd dybiedig o ferch maint sero.

Gan fod y ddelfryd o atyniad yn seiliedig ar nodweddion corfforol yn hytrach nag elfennau personoliaeth (megis caredigrwydd, deallusrwydd, ystyrioldeb, synnwyr digrifwch) yn cael ei hyrwyddo'n barhaus o fewn cymdeithasau'r gorllewin, gallech gymryd yn ganiataol y byddai cydberthnasau yn y gorllewin yn seiliedig ar nodweddion corfforol. Cafwyd bod y rhagdybiaeth hon yn wir, ond dim ond i ryw raddau. Gallai p'un a yw'n wir ai peidio fod yn seiliedig ar y rheswm dros y gydberthynas, boed yn hwyl byrdymor neu'n ymrwymiad tymor hwy.

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod yr hyn a gaiff ei werthfawrogi mewn partner hefyd yn wahanol gan ddibynnu ar y rhyw. Mewn astudiaeth o hysbysebion personol, canfu Catherine Cameron et al (1977) fod merched yn dueddol o hyrwyddo eu hunain gan gyfeirio at nodweddion personoliaeth a nodweddion corfforol y mae cymdeithas yn eu ffafrio, megis synnwyr digrifwch, hyder, tenau, deniadol ac ati. Ar y llaw arall, roedd dynion yn dueddol o dynnu sylw at eu statws economaidd, felly byddant yn aml yn defnyddio t ermau megis 'proffesiynol' neu 'ddeiliad tŷ'. Ymddengys fod y gwahaniaeth hwn yn awgrymu bod merched yn 'meddwl' bod dynion yn chwilio am rywun deniadol a bod dynion yn 'meddwl' bod merched yn chwilio am sicrwydd - gyda geiriad yr hysbysebion yn adlewyrchu'r hyn y mae'r ddau ryw yn 'meddwl' y mae'r llall yn chwilio amdano - ac ategir hyn gan amrywiaeth o waith ymchwil.

Gweithgaredd 8: Profi gwaith ymchwil Cameron

Timing: 0 awr 25 o funudau

Dewch o hyd i adran hysbysebion personol cylchgrawn neu bapur newydd lleol. Edrychwch ar yr ugain hysbyseb gyntaf am 'ferched sy'n chwilio am ddynion' a gwnewch nodyn byr o'r ffordd y mae'r merched yn disgrifio eu hunain, yna gwnewch yr un peth ar gyfer yr ugain hysbyseb gyntaf am 'ddynion sy'n chwilio am ferched'. A yw eich canfyddiadau yn ategu canfyddiadau Cameron et al?

Gadael sylw

Yn y gweithgaredd hwn, gwnaethoch ddechrau gyda chwestiwn ymchwil yn ymwneud â gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran y ffordd y mae pobl yn hyrwyddo eu hunain i ddarpar bartneriaid. Wedyn gwnaethoch nodi 'samplau rhyw' perthnasol a chynnal dadansoddiad o'r samplau mewn perthynas â chategorïau diffiniedig, sef eitemau yn yr hysbysebion sy'n hyrwyddo 'nodweddion y mae cymdeithas yn eu ffafrio' a'r rheini sy'n 'hyrwyddo statws economaidd'. Felly, fel rhan o'ch gwaith ymchwil, aethoch ati i 'brofi canfyddiadau Cameron et al.

Yn amlwg, byddai'r sampl yn rhy fach a byddai'r ffynhonnell yn rhy gyfyngedig i ddarparu prawf trylwyr o'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran y ffordd y mae pobl yn hyrwyddo eu hunain mewn hysbysebion personol yn yr oes sydd ohoni.

Mae rhai seicolegwyr yn awgrymu er mwyn deall pam yr ystyrir bod rhai nodweddion corfforol penodol yn ddeniadol, bod angen i ni ystyried esblygiad pobl. Mae damcaniaeth Darwin am esblygiad a detholiad naturiol yn datgan y caiff nodweddion sy'n rhoi'r siawns gorau i anifail neu berson oroesi ac atgynhyrchu eu gwerthfawrogi. Byddai'r seicolegwyr hyn yn awgrymu bod atyniad sy'n seiliedig ar nodweddion corfforol yn ymwneud â nodweddion sy'n awgrymu iachusrwydd ac yn arbennig, ffrwythlondeb.

Cynhaliodd Viren Swami ac Adrian Furnham (2006) drosolwg o waith ymchwil diweddar sy'n ystyried y dylanwad awgrymedig hwn ar atyniad yn seiliedig ar nodweddion corfforol. Canolbwyntiodd eu gwaith ymchwil ar safbwynt dynion heterorywiol.

Maent yn gofyn p'un a oes nodweddion corfforol sy'n ddeniadol ar draws diwylliannau. Os felly, a yw'r nodweddion hyn yn arwydd o botensial i atgynhyrchu fel y rhagwelwyd gan seicolegwyr sy'n mynd ati i esbonio ymddygiad mewn ffordd esblygol? Daw Swami a Furnham i'r casgliad bod tystiolaeth ymchwil sy'n awgrymu bod nodweddion y dangoswyd eu bod yn ddeniadol ar draws diwylliannau. Mae'r nodweddion corfforol ar gyfer merched yn canolbwyntio ar siâp y corff, yn enwedig cymhareb mesuriadau'r wasg i'r glun (WHR). Mae mesuriad WHR o 0.8 yn golygu bod mesuriad wasg person yn 80 y cant o fesuriad ei glun.

Ffigur 9: Cymhareb wasg/clun

I ferch, mae WHR o tua 0.7 yn well na WHR uchel o 0.9 a throsodd, o ran iechyd a ffrwythlondeb. Yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau, bydd dynion o'r farn bod merch ag WHR o 0.7 yn fwy deniadol na merch ag WHR uwch. Tystiolaeth boblogaidd i ategu hyn yw'r ffaith bod gan bob model fyd-enwog yn yr oes sydd ohoni, yn ogystal â sêr byd ffilmiau'r 1950au fel Marilyn Monroe ac, yn bellach i'r gorffennol fyth, cerflun enwog (di-freichiau) Venus de Milo oll WHR o tua 0.7.

Fodd bynnag, gall pwysau'r corff fod yn bwysicach na WHR hyd yn oed wrth benderfynu a yw merch yn ddeniadol a chyfeiria Swami a Furnham at waith ymchwil sy'n dangos rhywfaint o amrywiad ymhlith diwylliannau pan ystyriwyd y mesur hwn. Yn gyffredinol, mae'n well gan ddynion o fewn cymdeithasau sydd wedi datblygu'n economaidd ferched ysgafnach, ac mae'n well gan ddynion o fewn cymdeithasau sy'n dal i ddatblygu'n economaidd ferched trymach. Caiff y gwahaniaethau diwylliannol hyn eu hegluro gan seicolegwyr esblygol gan awgrymu ei bod yn ddealladwy, mewn cymdeithasau lle roedd cyflenwadau bwyd yn wael neu'n ansicr, y byddai merched â phwysau corff uchel yn cael eu hystyried fel dewis partner gwell. Mewn cymdeithasau sydd wedi datblygu'n economaidd, nid yw'r ystyriaethau mwy sylfaenol hyn sy'n canolbwyntio ar oroesi mewn amgylcheddau anodd yn berthnasol a gall ffactorau eraill fod yn berthnasol.

Mae'r ymagwedd esblygol yn ddadleuol, gyda'r rhan fwyaf o seicolegwyr o'r farn ei bod yn rhy syml, ond mae'n cynnig fframwaith esboniadol eang y gellir ei ddefnyddio i ddechrau deall a dehongli ymddygiad pobl.

Mae gwaith Swami a Furnham uchod wedi cyflwyno rhywfaint o'r amrywiad diwylliannol o ran yr hyn y mae pobl yn ystyried yn nodweddion deniadol ar gyfer darpar gydberthnasau agos. Mae amrywiaeth o nodweddion eraill yr ystyriwyd eu bod yn dylanwadu ar atyniad. Er mai arwyddion o iachusrwydd sydd bwysicaf, unwaith y byddant wedi cael ystyriaeth, gellir ystyried arwyddion o gyfoeth neu statws. Yn ystod y degawdau diwethaf o fewn cymdeithasau'r gorllewin, mae pobl yn aml wedi rhoi gwerth ar groen â lliw haul a chyrff teneuach gan fod hyn yn awgrymu bod gan unigolyn ddigon o arian i fwyta diet iach a gwneud ymarfer corff yn ogystal â mynd ar wyliau drud neu o leiaf fynd i salon i gael lliw haul. Yn ddiddorol, gan fod peryglon lliw haul bellach yn destun gwaith ymchwil ac wedi cael cyhoeddusrwydd, caiff pobl â lliw haul neu o leiaf bobl sydd wedi llosgi yn yr haul bellach eu gweld mewn ffordd fwy negyddol.

Mae sawl enghraifft, o wahanol ddiwylliannau, o addurniadau corfforol mwy anarferol yr ystyriwyd eu bod yn ddeniadol. Yn Tsieina, cynhaliwyd yr arfer o rwymo traed merched am gannoedd o flynyddoedd cyn cael ei wahardd yn 1911. Dechreuwyd y broses pan oedd merched tua pum mlwydd oed a'r ddelfryd oedd na fyddai ganddynt draed yn hirach na phedair modfedd. Fel y gallwch ddychmygu, roedd y broses yn boenus iawn ac nid oedd y merched a'r menywod yn aml yn gallu cerdded rhyw lawer. Roedd yr arfer yn symbol o statws a dim ond ar ferched o deuluoedd cyfoethog y byddai disgwyl iddynt briodi i deulu cyfoethog tebyg y'i cynhaliwyd. Byddai disgwyl i ferched o gefndiroedd tlotach weithio, a fyddai'n amhosibl â thraed wedi rhwymo. Yn yr un modd, byddai merched Ewropeaidd adeg y Dadeni yn aml yn duo eu dannedd er mwyn ymddangos yn fwy deniadol. Yr esboniad am hyn oedd mai dim ond i bobl gyfoethog iawn yr oedd siwgr ar gael a bod siwgr yn achosi i ddannedd bydru a throi'n ddu felly drwy baentio eich dannedd yn ddu, gallech ymddangos fel petaech o statws economaidd uchel ac felly'n berson deniadol.

Rex Features
Ffigur 10: Troed wedi'i rhwymo

Yn fwy diweddar, mae tatŵs a thyllau croen (sy'n boblogaidd ar hyn o bryd o fewn cymdeithasau'r gorllewin) wedi dod yn addurniad angenrheidiol i lawer o bobl. Dim ond rhai enghreifftiau a nodwyd o blith yr amrywiaeth eithriadol o addurniadau'r corff y cafwyd eu bod yn ddeniadol ar gyfer gwahanol ddiwylliannau. Ac mae'r diwydiant byd-eang o golur, dylunio dillad a llawdriniaeth gosmetig i ddynion a merched sy'n canolbwyntio mor amlwg ar wella nodweddion corfforol. Bydd ein hawydd i feithrin cydberthnasau agos yn ein tywys i chwilio am bobl benodol a chyflwyno ein hunain yn y ffordd y teimlwn y bydd fwyaf deniadol i bobl eraill. Caiff hyn, yn ei dro, ei lywio gan y diwylliant penodol rydym yn byw o'i fewn.

Byddai'r pwyslais a rydd ein cymdeithas ar fod yn gorfforol ddeniadol yn awgrymu y byddai pob un ohonom yn chwilio am gydberthnasau rhamantus hirdymor gyda'r bobl fwyaf deniadol y down ar eu traws. Ond mae rhywfaint o'r gwaith ymchwil i'r ffordd y caiff cydberthnasau eu meithrin yn awgrymu ein bod mewn gwirionedd yn fwy realistig a'n bod yn dueddol o feithrin cydberthnasau â phartneriaid sy'n darparu 'cyfatebiaeth' gorfforol well i ni'n hunain. Gelwir hyn yn ddamcaniaeth cyfateb ac fe'i hategwyd gan nifer o astudiaethau. Mewn un astudiaeth, dangosodd Bernard Murstein (1972) luniau o 99 o gyplau i gyfranogwyr. Roedd y lluniau ar wahân felly nid oedd y cyfranogwyr yn gwybod pwy oedd wedi'i baru â phwy. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr roi sgôr i bob llun o ran pa mor ddeniadol oedd y person yn y llun. Roedd sgoriau'r cyplau go iawn yn llawer tebycach na'r sgoriau ar gyfer cyplau a bennwyd ar hap.

Nid yw'r ddamcaniaeth cyfateb hon yn gwrth-ddweud y safbwynt blaenorol ein bod yn cael ein denu at bobl sy'n ddeniadol iawn yn gorfforol, ond mae'n tynnu sylw at y ffaith ein bod yn cyfuno rhywfaint o realaeth â'n delfrydau wrth wneud dewis gwirioneddol. Eglurir y broses hon weithiau yn nhermau costau a gwobrau. Byddai costau chwilio am bartner delfrydol mor uchel, o ystyried yr amser y byddai ei angen a'r tebygolrwydd o gael eich gwrthod pe byddent yn llawer mwy deniadol na chi. Yn yr un modd, ni chaiff pobl fel arfer eu denu at rywun sy'n llawer llai deniadol na hwy, oherwydd er y byddai'r costau'n isel, byddai'r gwobrau hefyd yn isel. Mae seicolegwyr eraill yn awgrymu, yn hytrach na bod ofn cael ein gwrthod, ein bod mewn gwirionedd yn hapusach gyda rhywun sy'n debycach i ni'n hunain, sy'n ategu'r hyn roeddech yn ei ddarllen yn gynharach am gael ein denu at bobl sy'n debyg i ni ymhob math o ffordd.

Meddyliwch eto am y wybodaeth am sgemâu yn Adran 3.4. Diffinnir sgema fel fframwaith meddyliol lle byddech yn ffeilio eich holl wybodaeth am wrthrychau penodol, sefyllfaoedd penodol, grwpiau penodol o bobl, hyd yn oed chi eich hun. Mae'r farn a awgrymir yma ar feithrin cydberthnasau yn awgrymu bod pobl yn cario sgema meddyliol sy'n cynnwys cyfres o nodweddion y byddent yn eu ffafrio mewn partner a'u bod yn chwilio am bobl sydd fwy neu lai'n cydymffurfio â hyn. Dengys gwaith ymchwil ar sgemâu yr ystyrir bod ffactorau heblaw am ymddangosiad neu atyniad corfforol yn bwysicach wrth chwilio am bartner hirdymor. Er enghraifft, astudiodd David Buss (1994) fyfyrwyr coleg dibriod yn yr UD a chafodd mai'r tair prif nodwedd ofynnol mewn partner delfrydol oedd: caredigrwydd a dealltwriaeth; personoliaeth gyffrous; a deallusrwydd.