Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dechrau gyda seicoleg
Dechrau gyda seicoleg

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.3 Pen-bytiad Zidane

Digwyddiad o Rownd Derfynol Cwpan y Byd 2006 rhwng Ffrainc a'r Eidal yw'r astudiaeth achos i'w hystyried. Y ddau chwaraewr dan sylw yw Zinedine Zidane, a oedd yn chwarae i Ffrainc a ben-fytiodd frest Marco Materazzi, a oedd yn chwarae i'r Eidal.

Copyright Popperfoto/Alamy
Ffigur 13: Zidane

Gweithgaredd 12: Y digwyddiad

Timing: 0 awr 15 o funudau

Darllenwch y disgrifiad canlynol o'r digwyddiad, a nodwch unrhyw feddyliau a gewch am yr hyn a ddigwyddodd.

Mae'r digwyddiad yn ystod yr ail gyfnod o amser ychwanegol (tua 110 o funudau i'r gêm). Mae Materazzi yn symud i sefyll y tu ôl i Zidane ac wedyn yn dal gafael ynddo gyda braich o amgylch ei frest. Mae'r ddau chwaraewr yn edrych i gyfeiriad y bêl. Mae Materazzi yn gollwng ei afael ar Zidane ac mae Zidane yn edrych tuag ato. Mae Materazzi yn dweud rhywbeth ac yn patio Zidane ar ei gefn. Mae'r ddau chwaraewr yn dechrau symud i lawr y cae i gyfeiriad y chwarae tra'n siarad â'i gilydd ac wedyn mae Zidane yn dechrau loncian fel ei fod o flaen Materazzi. Mae Materazzi yn dal i siarad i gyfeiriad Zidane. Mae Zidane yn troi i wynebu Materazzi ac wedyn yn camu tuag ato tra'n gostwng ei ben. Wedyn mae'n pen-fytio Materazzi yn ei frest. Mae Materazzi yn syrthio i'r llawr.

Gadael sylw

Pa nodiadau a wnaethoch am yr hyn y gwnaethoch ei ddarllen uchod? A oeddent yn cynnwys dehongliadau o'r ymddygiad? A wnaethoch feddwl tybed pam roedd y chwaraewyr yn ymddwyn fel ag y gwnaethant? Dychmygwch eich bod yn gwylio'r digwyddiad hwn wrth iddo ddigwydd yn hytrach na darllen amdano.

Mae'n demtasiwn mawr wrth arsylwi ymddygiad i fynd y tu hwnt i'r hyn a welwch a dechrau dod i gasgliadau. Er enghraifft, pe byddech yn gwylio rhywun yn gwrando ar jôc yn cael ei adrodd gan berson arall ac wedyn yn chwerthin, byddai'n ymddangos yn rhesymol disgrifio'r sefyllfa drwy ddweud bod y person wedi cael y jôc yn ddoniol ac wedi chwerthin. Gweithred arsylwadwy yw'r chwerthin ond casgliad yw'r awgrym ei fod wedi gwneud hynny am ei fod wedi cael y jôc yn ddoniol. Nid ydym yn gwybod ei fod wedi cael y jôc yn ddoniol, ond rydym yn credu hynny. Gallai fod sawl rheswm arall dros y chwerthin. Mae rhai pobl yn chwerthin pan fyddant yn teimlo'n nerfus neu gallai'r jôc fod wedi achosi teimladau o ddicter yr oedd y person yn ceisio eu cuddio neu gallai hyd yn oed fod wedi bod yn chwerthin am rywbeth arall y gall ei weld neu rywbeth arall y mae'n ei gofio.

Nid oes unrhyw beth o'i le wrth ddod i gasgliad a cheisio dehongli neu egluro ymddygiad - mae rhan helaeth o'r uned hon wedi ymdrin â'r broses o geisio dehongli ymddygiad drwy edrych ar wahanol esboniadau posibl. Fodd bynnag, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng yr hyn a arsylwch a sut y gallech ddehongli'r ymddygiad hwn oherwydd gall sawl gwahanol ddehongliad fod yn bosibl.

Yn nigwyddiad Zidane, nawr bod gennym ddisgrifiad o'r hyn a ddigwyddodd, y cam nesaf yw ceisio esbonio'r ymddygiad hwn. Fodd bynnag, yn gyntaf, gallai fod yn ddefnyddiol i chi gael rhywfaint o wybodaeth gefndir am Zidane.